/** * https://gist.github.com/samthor/64b114e4a4f539915a95b91ffd340acc */ (function() { var check = document.createElement('script'); if (!('noModule' in check) && 'onbeforeload' in check) { var = false; document.addEventListener('beforeload', function(e) { if (e.target === check) { = true; } else if (!e.target.hasAttribute('nomodule') || !) { return; } e.preventDefault(); }, true); check.type = 'module'; check.src = '.'; document.head.appendChild(check); check.remove(); } }());

Dynes 75 oed mewn cyflwr difrifol wedi gwrthdrawiad

  • Cyhoeddwyd
FflintFfynhonnell y llun, Google

Mae Heddlu'r Gogledd yn apelio am dystion ar ôl i ddynes 75 oed fod mewn gwrthdrawiad â char yn Sir y Fflint nos Sadwrn.

Dywedodd llefarydd fod y ddynes mewn cyflwr difrifol gydag anafiadau sy'n peryglu ei bywyd.

Cafodd yr heddlu eu galw i Ffordd Caer, Fflint, am 23:32.

Dywedodd y sarjant Emlyn Hughes eu bod yn credu fod cerddwr a cheir eraill yn yr ardal pan ddigwyddodd y gwrthdrawiad gyda Ford Focus llwyd.

"Yn benodol, rydym yn awyddus i glywed gan yrrwr cerbyd o fath 4x4 gyda threilar wnaeth yrru heibo'r safle ychydig cyn y gwrthdrawiad.

"Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â fi neu'r uned ffyrdd ar 101 gan ddefnyddio'r cyfeirnod RC17189132, neu fe allant gysylltu yn ddienw ar 080055511."