Oes hiliaeth yn addysg Cymru?
- Cyhoeddwyd

Fe dderbyniodd Betty Campbell MBE yn 2003 am ei chyfraniad i addysg ac i fywyd cymunedol
Mae 'na drafodaeth yn y Senedd ddydd Mawrth 20 Medi yn ymdrin ag hiliaeth yn y system addysg yng Nghymru. Mae elusen Dangos Cerdyn Coch i Hiliaeth Cymru yn galw ar "weithredu brys i atal y llanw cynyddol o agweddau hiliol ymhlith pobl ifanc yng Nghymru". Yn ôl ffigyrau cafodd eu cyhoeddi ym mis Gorffennaf, mae llai na 0.5% o athrawon Cymru yn dod o gefndiroedd ethnig lleiafrifol, dolen allanol - ond pam?
Betty Campbell yw'r person du cyntaf i fod yn bennaeth ar ysgol yng Nghymru - ac hynny ar Ysgol Gynradd Mount Stuart yn Nhrebiwt, Caerdydd.
Bellach wedi ymddeol, ond yn dal yn amlwg iawn yn ei chymuned ym Mhorth Teigr, mae Mrs Campbell yn poeni bod stigma yn dal i berthyn i athrawon croenddu.
"Yr unig beth alla i feddwl yw bod yna lawer o ragfarn yn dal o gwmpas a dydw i ddim yn meddwl bod gan bobl lawer o feddwl o athrawon du," meddai. "Nes i gymhwyso fel athrawes yn 1963, ond faint [o athrawon du] sydd wedi dod drwodd ers hynny?
"Rhagfarn yw e'n rhannol, ond mae hefyd yn anwybodaeth. Dyw pobl methu newid eu safbwyntiau o gwbl. Pan ddes i yn brif athrawes am y tro cyntaf roedd 'na staff yn yr ysgol oedd ddim eisiau gweithio 'da fi. Dwi'n credu ei fod e'n farn hiliol mewn sawl ffordd."
Diffyg anogaeth?
Gyda'i merch newydd ymddeol fel prif athrawes yn Llundain, ac ei hwyres yn ddirprwy brif athrawes yno hefyd, awgrymodd fod gan Gymru lawer o waith i'w wneud er mwyn cynnig yr un cyfleoedd.
"Nid pawb sydd eisiau mynd mewn i ddysgu - mae'n eitha' anodd y dyddiau yma," ychwanegodd Mrs Campbell, a fu'n gynghorydd sir ar ôl iddi ymddeol. "Os nad yw pobl yn gwneud cais i gael swydd - ydyn nhw'n cael eu denu i'r colegau lle mae rhywun yn dysgu'r grefft o fod yn athro?
"Yr oll wyddwn i yw 'mod i wastad wedi eisiau bod yn athrawes ac er fod tri plentyn gen i ar y pryd mi wnes hynny."

Betty Campbell yn croesawu y Tywysog Charles i Drebiwt ar Ddydd Gŵyl Dewi 1994
Ond beth am brifddinas Cymru - yr ardal mwyaf amrywiaethol yn y wlad, ac ardal sy'n agos iawn at galon Mrs Campbell? Ydy Caerdydd yn arwain y ffordd i weddill Cymru? Dydy Mrs Campbell ddim mor siŵr.
"Roeddwn i'n gobeithio erbyn hyn y byddai 'na lawer mwy o athrawon du yng Nghaerdydd ond yn anffodus does dim llawer," meddai.
"Ond alla i ddim dweud beth yw'r prif reswm am hynny. Dwi'n credu bod rhywfaint o ragfarn ond yw pobl ddu yn cael eu hannog i geisio am y swyddi">