/** * https://gist.github.com/samthor/64b114e4a4f539915a95b91ffd340acc */ (function() { var check = document.createElement('script'); if (!('noModule' in check) && 'onbeforeload' in check) { var = false; document.addEventListener('beforeload', function(e) { if (e.target === check) { = true; } else if (!e.target.hasAttribute('nomodule') || !) { return; } e.preventDefault(); }, true); check.type = 'module'; check.src = '.'; document.head.appendChild(check); check.remove(); } }());

Anrhydeddu Graham Henry

  • Cyhoeddwyd
Graham HenryFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Henry yn hyfforddwr ar Gymru rhwng 1998 a 2002

Mae un o gyn hyfforddwyr Cymru wedi ei urddo'n farch ar ochr arall y byd.

Cafodd Graham Henry, neu Syr Graham ei anrhydeddu wrth i Seland Newydd gyhoeddi eu rhestr anrhydeddau ar gyfer y Flwyddyn Newydd.

Mae'n derbyn yr anrhydedd oherwydd ei wasanaeth i chwaraeon.

Daw'r wobr yn sgil buddugoliaeth y Crysau Duon wrth ennill Cwpan y Byd ym mis Hydref.

Fe gurodd y Crysau Duon Ffrainc o drwch blewyn, 8-7, yn y gêm derfynol.

Roedd Henry yn hyfforddwr ar dîm rygbi Cymru rhwng 1998 a 2002.