/** * https://gist.github.com/samthor/64b114e4a4f539915a95b91ffd340acc */ (function() { var check = document.createElement('script'); if (!('noModule' in check) && 'onbeforeload' in check) { var = false; document.addEventListener('beforeload', function(e) { if (e.target === check) { = true; } else if (!e.target.hasAttribute('nomodule') || !) { return; } e.preventDefault(); }, true); check.type = 'module'; check.src = '.'; document.head.appendChild(check); check.remove(); } }());

Un o sêr Gogglebocs yn annog dysgwyr Caint

  • Cyhoeddwyd

Mae geirfa ar ddiwedd yr erthygl i bobl sy'n dysgu Cymraeg.

Marcus Whitfield (canol) gyda Vicki Edmunds o Gogglebocs Cymru (chwith) a'r gantores Bronwen LewisFfynhonnell y llun, Marcus Whitfield
Disgrifiad o’r llun,

Marcus Whitfield (canol) gyda Vicki Edmunds o Gogglebocs Cymru (chwith) a'r gantores Bronwen Lewis

Mae un o sêr Gogglebocs Cymru, Marcus Whitfield, wedi dechrau grŵp siarad Cymraeg yn ei Wetherspoons lleol yng Nghaint.

Mae tua wyth o ddysgwyr yn cyfarfod bob wythnos yn y dafarn yn nhref Tonbridge, Caint.

Ond pam fod pobl o Gaint wedi penderfynu dysgu Cymraeg?

Meddai Marcus: “Mae’r rhesymau’n wahanol i bawb yn y grŵp. Aeth un i Gymru ar ei wyliau a rhyfeddu at y Gymraeg, roedd Nain a Taid aelod arall yn dod o Gymru. Mae’r rhan fwyaf gyda chysylltiad â Chymru.

“Y syniad ydy creu gofod i bobl ymarfer eu Cymraeg.”

Dysgwyr CaintFfynhonnell y llun, Marcus Whitfield
Disgrifiad o’r llun,

Dysgwyr Caint

‘Cardiau i helpu gyda’r Gymraeg’

Mae Marcus yn dod o Fwcle wrth ymyl Wrecsam yn wreiddiol, ac fe ddechreuodd ddysgu Cymraeg yn 2019.

Fel siaradwr newydd, mae'n awyddus iawn i helpu pobl eraill sy'n dysgu’r iaith.

Dyna pam ei fod wedi dyfeisio gêm o gardiau arbennig.

“Mae lot o grwpiau sgwrs ar draws y wlad yn defnyddio'r cardiau," meddai.

"Y bwriad yw defnyddio'r cardiau i ddechrau sgwrs. Mae'r cardiau'n cynnwys cwestiynau syml fel 'Beth wyt ti’n licio am Gymru">