Ystyried ad-drefnu ysbytai'r gorllewin dros bryderon diogelwch

Mae Ysbyty Bronglais, Aberystwyth yn un o bedwar prif ysbyty yn ardal Bwrdd Iechyd Hywel Dda
- Cyhoeddwyd
Mae bwrdd iechyd y canolbarth a'r gorllewin yn dweud bod angen newidiadau mewn naw maes gofal er mwyn sicrhau y gellir eu darparu'n ddiogel.
Clywodd cyfarfod o swyddogion Bwrdd Iechyd Hywel Dda – sy'n gwasanaethu Ceredigion, Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro – fod naw gwasanaeth yn "fregus" a bod angen newidiadau i wneud gwelliannau a lleihau amseroedd aros i gleifion.
Gallai'r newidiadau i wasanaethau - gan gynnwys gofal critigol, strôc ac orthopaedeg - olygu eu bod yn cael eu canoli mewn llai o leoliadau a fyddai'n golygu amseroedd teithio hirach i gleifion a pherthnasau.
Ddydd Iau, fe gyhoeddodd y bwrdd iechyd gyfnod ymgynghori 13 wythnos o hyd fydd yn dod i ben ar 31 Awst.
- Cyhoeddwyd10 Mai
- Cyhoeddwyd19 Chwefror
- Cyhoeddwyd2 Rhagfyr 2024
Mae yna bedwar prif ysbyty o fewn ardal Bwrdd Iechyd Hywel Dda - Ysbyty'r Tywysog Philip yn Llanelli, Glangwili yng Nghaerfyrddin, Ysbyty Cyffredinol Llwynhelyg yn Hwlffordd a Bronglais yn Aberystwyth.
Dywedodd y bwrdd fod timau wedi eu rhannu ar hyd sawl safle, dros ardal eang a bod "gorddibyniaeth ar nifer fach o unigolion".
Y naw gwasanaeth sy'n cael eu hystyried fel y rhai mwyaf bregus yw Gofal Critigol, Dermatoleg, Llawfeddygaeth Gyffredinol Frys, Endosgopi, Offthalmoleg, Orthopedeg, Strôc, Radioleg ac Wroleg.
Mae gofal critigol yn bryder, yn enwedig yn Ysbyty Tywysog Philip, tra bod llawdriniaeth gyffredinol frys yn cael ei ystyried yn faes bregus yn Ysbyty Llwynhelyg yn benodol.
Bydd newidiadau i wasanaethau strôc hefyd yn cael eu hystyried er mwyn "cwrdd â safonau ac ymateb i freuder y gwasanaeth" gydag un o'r cynigion yn gweld unedau strôc ysbytai Bronglais a Glangwili yn darparu gwasanaeth 'trin a throsglwyddo' a'r gofal arbenigol yn cael ei gynnig yn Llanelli a Hwlffordd.

Mae llawdriniaeth gyffredinol frys yn Ysbyty Llwynhelyg yn un o'r meysydd sy'n cael ei ystyried yn fregus
Ychwanegodd y bwrdd nad yw gofal wedi'i gynllunio - mewn dermatoleg, orthopaedeg, offthalmoleg ac wroleg - wedi dychwelyd i'r lefelau triniaeth a ddarparwyd cyn pandemig Covid.
Un o amcanion y newidiadau yn y meysydd hyn fyddai lleihau amseroedd aros i gleifion.
Dywedodd Mark Henwood, cyfarwyddwr meddygol gweithredol y bwrdd iechyd, fod y rhesymau am y newidiadau yn cynnwys anawsterau staffio gwasanaethau ar draws pob ysbyty, a'r her o fynd yn ôl i'r un lefelau o driniaethau ag oedd yn cael eu darparu cyn y pandemig.
"Yn y bôn, ry'n ni'n credu nad ydyn ni'n darparu'r safonau gofal uchaf i'n cleifion," meddai.
Esboniodd Eiry Edmunds, dirprwy gyfarwyddwr meddygol, fod clinigwyr yn "awyddus i weld cynnydd a newid" ac mae'r ymgynghorydd arweiniol ar gyfer gwasanaethau strôc, Senthil Kumar yn dweud bod angen newidiadau i wella gofal mewn bwrdd iechyd lle mae daearyddiaeth yn un o'r "materion mwyaf".
Beth fydd yr effaith ar wahanol ysbytai?
Mae'r bwrdd iechyd wedi crynhoi sut y gallai newidiadau i bob un o'r naw gwasanaeth effeithio ar yr ysbytai:
• Bronglais – darparu gwasanaethau fel y mae ar hyn o bryd, er y gall rhai arbenigeddau gael eu darparu o wahanol safleoedd.
• Glangwili - darparu gofal mwy aciwt a brys, gyda pheth gofal wedi'i gynllunio yn cael ei symud i safleoedd eraill, naill ai yn ôl gwasanaeth neu gyflwr iechyd.
• Tywysog Philip - darparu mwy o ofal wedi'i gynllunio, yn enwedig ar draws rhanbarth ehangach lle caiff gwasanaethau eu darparu mewn partneriaeth â Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe.
• Llwynhelyg - darparu mwy o ofal wedi'i gynllunio, yn enwedig yn ardal Hywel Dda, gyda mynediad cychwynnol at ofal aciwt yn parhau ar y safle, ond yn trosglwyddo i Ysbyty Glangwili ar gyfer cleifion â'r anghenion mwyaf.

Fe wnaeth y bwrdd iechyd ddatgan digwyddiad mawr er mwyn mynd i'r afael â problemau yn ymwneud â choncrit RAAC yn Ysbyty Llwynhelyg
Cafodd cynlluniau i ddiweddaru gwasanaethau eu llunio yn wreiddiol yn 2018, ond mae'r broses wedi'i oedi yn sgil y pandemig a phroblemau gyda choncrit RAAC yn Ysbyty Cyffredinol Llwynhelyg.
Mae yna gynlluniau i adeiladu ysbyty newydd yn yr ardal, ond am resymau ariannol, mae'r bwrdd iechyd wedi dweud bod hynny "yn annhebygol o ddigwydd yn y tymor byr a chanolig".
'Dyma'r peth iawn i'w wneud nawr'
Wrth gloi'r drafodaeth dywedodd cadeirydd y bwrdd iechyd, Neil Wooding: "Bydd angen i ni dawelu meddwl y gymuned ehangach mai dyma'r peth iawn i'w wneud nawr ar yr adeg benodol hon, a'n cymhelliad yw bod eisiau darparu gwasanaethau diogel o ansawdd gwell."
Ychwanegodd mai'r nod yw "cyd-ddylunio a chyd-gynhyrchu" cynllun ar gyfer y gwasanaethau "sy'n cwrdd ag anghenion y cymunedau a'r sefydliad hwn wrth ddarparu gwasanaethau cynaliadwy, diogel ac o safon".
Dywedodd llefarydd ar ran Llais, sy'n cynrychioli cleifion: "Bydd Llais yn bresennol ym mhob digwyddiad ymgynghori sy'n ymwneud ag ad-drefnu gwasanaethau Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda drwy gydol y broses.
"Rydym yn cydnabod bod hwn yn ymgynghoriad cymhleth sy'n cynnwys naw gwasanaeth gwahanol, a bydd y newidiadau posibl yn effeithio ar gymunedau ar draws ardal Hywel Dda mewn gwahanol ffyrdd.
"Rydym yn gwybod y bydd cynigion a allai olygu amseroedd teithio hirach yn codi pryderon, a byddwn yn gwrando'n ofalus ar yr hyn sydd gan bobl i'w ddweud. Ar yr un pryd, rydym yn cydnabod bod llawer hefyd eisiau gweld newid a gwelliannau i wasanaethau."
Bydd nifer o ddigwyddiadau cyhoeddus yn ystod y cyfnod ymgynghori, cyn i'r bwrdd iechyd wneud unrhyw benderfyniadau terfynol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd21 Medi 2023
- Cyhoeddwyd14 Medi 2023