Al Lewis: 'Pwysig i artistiaid wneud ein rhan i fod yn fwy gwyrdd'

Mae Al Lewis yn perfformio mewn 15 lleoliad sydd ar hyd rheilffyrdd Trafnidiaeth Cymru
- Cyhoeddwyd
Mae un o gerddorion mwyaf adnabyddus Cymru wedi bod yn perfformio ar draws y wlad gan ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus yn unig, i fod yn fwy eco-gyfeillgar.
Dywedodd Al Lewis bod yn rhaid i gerddorion deithio, felly os ydy "rhyw betha' bach fel hyn yn helpu'r amgylchedd, dwi'n credu bod o'n bwysig gwneud".
Ychwanegodd fod "pobl yn anghofio pa mor odidog ydy'r golygfeydd", ac os allwch chi fynd ar y trên, "ewch amdani - fe gewch chi'ch siomi ar yr ochr ora'".

"Yng Nghymru ma' gynno ni olygfeydd godidog a 'da ni'n freintiedig o hynny," meddai Al Lewis
Mae Al Lewis yn ceisio "bod yn drylwyr wrth ailgylchu" a "defnyddio dŵr glaw ar y bloda'", ac mae'n credu bod dangos esiampl dda yn bwysig.
"Fel rhiant yn meddwl am y dyfodol a'r byd 'da ni'n gadael i'r plant, mae trio lleihau fy ôl troed carbon yn bwysig iawn i fi," meddai.
Mae ganddo dri o blant ifanc ac mae'n trio "cerdded neu mynd ar y beic i'r ysgol i ddangos i'r plant bo' ni ddim wastad gorfod mynd yn y car a bod 'na ffyrdd eraill o deithio".
"Yng Nghymru ma' gynno ni olygfeydd godidog a 'da ni'n freintiedig o hynny – mae angen i ni fanteisio ar y trên gymaint â 'da ni'n gallu."

Mae gan Al Lewis dri o blant, sy'n saith, pedair a dwy oed
Dywedodd ei fod wedi cael y syniad o gigio wrth deithio'r wlad ar y trên yn ystod yr Eisteddfod Genedlaethol y llynedd ym Mhontypridd.
"O'n i, fel lot o bobl, 'di bod fyny'n mynychu'r 'Steddfod ar y trên," meddai.
"O'dd gen i gig ar y nos Wener felly dyma fi'n mynd a fy ngitâr ar y trên, a o'n i'n jest yn meddwl, 'waw mae hwn yn ffordd rili pleserus o fynd i gig'."
Aeth y cerddor 40 oed, sydd o'r gogledd ond bellach yn byw yng Nghaerdydd, ati i "brintio map o'r rhwydwaith a dechra' dotio llefydd posib".
Ar ôl cyflwyno ei gynlluniau i gwmni Trafnidiaeth Cymru, "ro'n i'n barod i fynd", meddai.

Dywedodd Al Lewid ei fod wedi cael "noson arbennig" yn perfformio gig yn Eglwys Sant Tudno
Ar hyd ei daith mae Al wedi bod yn perfformio ar y trên ei hun cyn cyrraedd pen ei daith mewn amrywiaeth o lefydd, gan gynnwys Merthyr Tudful, Dinbych-y-pysgod a Llanfair Caereinion ym Mhowys.
Dywedodd ei bod yn "bwysig iawn bo' ni'n lledaenu'r iaith a cherddoriaeth Gymraeg i lefydd di-Gymraeg".
Ychwanegodd os nad ydy artistiaid yn gwneud hynny y bydd defnydd yr iaith yn "lleihau, gwanhau a diodda'".
Wrth siarad â phobl di-Gymraeg a dysgwyr yn y gigiau, dywedodd bod gwrando ar gerddoriaeth Gymraeg "yn un o'u camau pwysig ar eu siwrna' i ddysgu Cymraeg".
"Dwi'n teimlo mai fy rôl i ydy gwneud hi mor hawdd â phosib iddyn nhw gysylltu a theimlo perthynas efo'r Gymraeg gan fod nhw'n byw yma."

Al Lewis (dde) a Patrick Rimes yn perfformio yn Eglwys Sant Tudno
Mae taith Al Lewis o gwmpas Cymru, sydd wedi mynd ag ef i "gorneli o Gymru nad ydw i mor gyfarwydd â nhw", bron a dod i ben.
"Dwi 'di mwynhau mas draw," meddai, a "'mond 'di profi un bws – roedd 'na dân ar y lein rhwng Casnewydd a Chaerdydd yn yr wythnos gynta'!".
"Dwi mor ddiolchgar i Trafnidiaeth Cymru a hoffwn i bawb fynd amdani a theithio mwy ar y trên.
"Mae'n brofiad gwych a hwylus."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 o ddyddiau yn ôl
- Cyhoeddwyd7 Mai
- Cyhoeddwyd12 Chwefror