/** * https://gist.github.com/samthor/64b114e4a4f539915a95b91ffd340acc */ (function() { var check = document.createElement('script'); if (!('noModule' in check) && 'onbeforeload' in check) { var = false; document.addEventListener('beforeload', function(e) { if (e.target === check) { = true; } else if (!e.target.hasAttribute('nomodule') || !) { return; } e.preventDefault(); }, true); check.type = 'module'; check.src = '.'; document.head.appendChild(check); check.remove(); } }());

Stephen Williams yn arwain y Tour of Britain

Stephen WilliamsFfynhonnell y llun, SWpix.com
Disgrifiad o’r llun,

Fe enillodd Stephen Williams yr ail gymal ddydd Mercher

  • Cyhoeddwyd

Mae'r Cymro Stephen Williams yn arwain ras seiclo'r Tour of Britain wedi iddo ennill yr ail gymal ddydd Mercher.

Fe lwyddodd y Cymro Cymraeg o Aberystwyth, sy'n cynrychioli tîm Israel-Premier Tech, i wibio heibio i Julian Alaphilippe o Ffrainc er mwyn ennill y cymal yn Redcar, ar gyrion Middlesbrough yng ngogledd Lloegr.

Mae'n golygu bod Williams, 28, yn mynd i frig y dosbarthiad cyffredinol - chwe eiliad ar y blaen i Oscar Onley o'r Alban, gydag Alaphilippe yn drydydd, 16 eiliad y tu ôl i Williams.

Bydd y trydydd cymal ddydd Iau yn gweld y peloton yn teithio o Sheffield i Barnsley, gyda'r Tour yn dod i ben ddydd Sul.

Pynciau cysylltiedig