window.addEventListener('message', function (event) { let _message$src; let message; try { message = typeof event.data === 'string' && JSON.parse(event.data); } catch (e) { console.log('Message event data is not JSON so could not be parsed'); } if ( (message === null || message === void 0 ? void 0 : message.sender) === 'Flourish' && (message === null || message === void 0 ? void 0 : message.context) === 'iframe.resize' && message !== null && message !== undefined && message !== void 0 && (_message$src = message.src) !== null && _message$src !== void 0 && _message$src.includes('18346664') ) { const flourishEmbed = document.getElementById('18346664'); if (flourishEmbed) { const iframeElement = flourishEmbed.querySelector('iframe'); if (iframeElement) { iframeElement.style.height = message.height + 'px'; } } } })

Mwy na hanner gyrwyr wedi arafu ers cyfraith 20mya

20 mya Ffynhonnell y llun, Getty Images
  • Cyhoeddwyd

Mae mwy na hanner gyrwyr yn cadw o fewn "cyflymder derbyniol" i'r terfyn newydd 20 milltir yr awr, yn ôl y ffigyrau diweddaraf.

Mae'r data, sydd wedi monitro 3.5 miliwn o gerbydau mewn ardaloedd 20mya, yn dangos fod 57.8% wedi aros ar 24mya neu is.

Daw wrth i ffigyrau ddangos cynnydd anferth yn nifer y modurwyr a gafodd eu herlyn am oryrru mewn ardaloedd 20mya - i fyny o ychydig dros 700 ym mis Ebrill i bron i 4,300 ym mis Mai.

Y cyflymder uchaf a gofnodwyd mewn ardal 20 mya oedd 88mya.

Fe ddangosodd ffigyrau o 10 safle monitro mai'r pentref oedd yn cydymffurfio orau â'r newid cyfraith oedd Peniel yn Sir Gaerfyrddin.

Yma, gwelwyd bron i 70% o yrwyr yn aros o dan 24mya.

Cwmbrân, Pont-y-pŵl a Blaenafon oedd yr ardaloedd lle'r oedd y lleiaf o gydymffurfio gyda'r terfyn cyflymder.

Yma roedd llai na 43% o bobl yn gyrru o fewn cyflymder derbyniol.

Dywed adroddiad Trafnidiaeth Cymru mai 20% o yrwyr oedd yn gyrru o dan 24mya cyn i'r ddeddf ddod i rym fis Medi.

Mae'r cyflymder cyfartalog hefyd wedi gostwng o 28mya i 24.6mya ers y newid cyfraith.

Ailystyried 20mya mewn mannau

Er y gostyngiad, dim ond 19% o gerbydau oedd yn gyrru o dan 20mya yn ôl y ffigyrau diweddaraf, ond dyw gyrwyr ddim wedi wynebu cosb os ydyn nhw'n gyrru'n arafach na 26mya.

Mae'r ffigyrau diweddaraf ond yn cynnwys data hyd at fis Ionawr, sef pryd y dechreuodd yr heddlu orfodi'r gyfraith newydd.

Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud y bydd y terfyn cyflymder yn cael ei ailystyreid ar gyfer rhai ffyrdd yn ddiweddarach eleni.

Mae ffigyrau gorfodi Gan Bwyll wedi dangos fod 4,286 o yrwyr wedi cael eu herlyn ar ôl cael eu dal yn gyrru dros y terfyn cyflymder mewn ardaloedd 20mya ym mis Mai.

Y cyflymder cyfartalog i'r rheiny a gafodd eu dal yng nghanolbarth a de Cymru oedd 28.3mya, tra bo'r ffigwr yn 32.7mya yn y gogledd.

Cafodd dau yrrwr eu dal yn gwneud 88mya - un yn y gogledd ac un yn y de.