/** * https://gist.github.com/samthor/64b114e4a4f539915a95b91ffd340acc */ (function() { var check = document.createElement('script'); if (!('noModule' in check) && 'onbeforeload' in check) { var = false; document.addEventListener('beforeload', function(e) { if (e.target === check) { = true; } else if (!e.target.hasAttribute('nomodule') || !) { return; } e.preventDefault(); }, true); check.type = 'module'; check.src = '.'; document.head.appendChild(check); check.remove(); } }());

Faint o gyfle sydd i siarad Cymraeg yn ardal Steddfod yr Urdd?

Arwydd croeso steddfod yr urddFfynhonnell y llun, Urdd
  • Cyhoeddwyd

Wrth i Bort Talbot groesawu miloedd i Eisteddfod yr Urdd Dur a Môr, mae 'na arwyddion o Gymreictod i'w gweld ar hyd a lled yr ardal.

Mae addysg Gymraeg wedi cynyddu yn y sir yn y blynyddoedd diwethaf, ond tu hwnt i'r ystafell ddosbarth, faint o gyfle sydd gan blant yr ardal i siarad Cymraeg bob dydd?

Yn Ysgol Gynradd Gymraeg Rhosafan yn y dref, mae'r cyffro ymhlith y disgyblion at gael Eisteddfod yr Urdd ar eu stepen drws yn amlwg.

"Mae'n rhoi cyfle i bawb ym Mhort Talbot i ddod gyda'i gilydd," meddai Seren-Elvie.

Mae rhai hefyd yn edrych ymlaen at gael mwy o gyfle i gymdeithasu yn Gymraeg.

"Ni'n cael opportunities i siarad Cymraeg mewn sports a pethe," meddai Noah.

Elsie a Gracie
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Elsie a Gracie eu bod yn ceisio siarad Cymraeg pan fydd cyfleoedd

Draw yng Nghlwb Rygbi Pontardawe, mae'r tîm ieuenctid merched yn hyfforddi.

Mae llawer o'r aelodau yn gallu siarad Cymraeg, ond dydy'r cyfleoedd i allu 'neud hynny ddim bob tro mor amlwg y tu hwnt i'r ysgol.

"Fi'n siarad Cymraeg yn yr ysgol oherwydd fi'n mynd i ysgol Gymraeg. A wedyn yn y tŷ weithiau ac yn rygbi fi yn trio," meddai Gracie.

"Ma' pawb ddim yn siarad Cymraeg yma ond fi yn trio siarad Cymraeg gyda fy ffrindiau sydd yn siarad Cymraeg."

"Dwi mo'yn siarad mwy o Gymraeg tu fas yr ysgol gyda fy ffrindiau," meddai Elsie.

"Oherwydd ni ddim yn siarad lot o Gymraeg ond pryd ni yn, mae pobl yn edrych ato ni ond ni mo'yn neud e mwy i bobl ddim edrych arnom ni."

Maes yr UrddFfynhonnell y llun, Urdd
Disgrifiad o’r llun,

Mae mwy o ddysgwyr Cymraeg wedi cystadlu yn yr Eisteddfod eleni nag erioed o'r blaen, yn ôl yr Urdd

Mae'r chwaraewyr yn gobeithio y bydd yr Eisteddfod yn cael effaith bositif ar yr iaith yn lleol.

Yn ôl yr Urdd, mae hyn eisoes wedi digwydd, gyda'r diddordeb wedi tyfu yn ystod y paratoadau at yr ŵyl.

"Ni 'di bod yn ddigon ffodus i gael swyddog prosiect newydd yn yr ardal," meddai Nia Johns, Swyddog Cymunedol Gorllewin Morgannwg gyda'r Urdd.

"Mae hi wedi gallu mynd mewn i lot fwy o ysgolion a denu nhw i gystadlu mewn lot fwy o gystadlaethau.

"So mae wedi bod yn hyfryd gweld lot mwy o ddiddordeb gyda'r ysgolion - yr hen rai ac, wrth gwrs, croesawu'r rhai newydd hefyd."

O'r ystafell ddosbarth, i'r cae chwarae, mae 'na gyffro at yr Eisteddfod a gobaith hefyd o weld y Gymraeg yn yr ardal yn ffynnu.