Prifysgol Bangor yn adolygu toriadau i'r archifdy

- Cyhoeddwyd
Mae Prifysgol Bangor wedi cadarnhau eu bod yn adolygu cynlluniau posib i wneud toriadau i'r adran archifau.
Roedd nifer wedi mynegi pryderon am ddyfodol adran Archifau a Chasgliadau Arbennig Prifysgol Bangor yn sgil cynlluniau posib i ostwng nifer y staff yno o bedwar i un.
Daw'r cyhoeddiad eu bod yn adolygu'r toriadau yn dilyn pwysau sylweddol gan wleidyddion a'r cyhoedd.
Mae dros 2,700 o bobl wedi llofnodi deiseb yn galw ar y brifysgol i achub yr archifdy rhag y toriadau.
Roedd yr adran yn rhan o ymgynghoriad ehangach i geisio arbed tua £5.3m, sy'n golygu colli tua 78 o swyddi llawn amser.
- Cyhoeddwyd20 Mai
- Cyhoeddwyd14 Mai
- Cyhoeddwyd19 Chwefror
Dywedodd Siân Gwenllian, Aelod Plaid Cymru dros Arfon yn y Senedd: "Mae staff a myfyrwyr wedi dod ata i gyda phryderon am wahanol agweddau'r cynigion, a 'nes i gyfleu hynny'n uniongyrchol i'r is-ganghellor ac uwch gynrychiolwyr.
"Dwi'n falch eu bod nhw wedi gwrando ar gryfder y teimlad, a rŵan yn ailystyried y toriadau arfaethedig i'r archif.
"Fe fyddan ni rŵan yn parhau i gyflwyno'r achos dros atal diswyddiadau gorfodol."