Gareth Wyn Jones: 'Y straen sy' tu ôl i feddwl rhywun'

- Cyhoeddwyd
Mae'r ffermwr a'r cyflwynydd teledu Gareth Wyn Jones yn derbyn negeseuon bob dydd gan ffermwyr sy'n dioddef gyda iechyd meddwl.
Bu Gareth yn siarad gyda Cymru Fyw am iselder ymhlith ffermwyr a'r cyfnodau anodd mae wedi profi ei hun yn ystod wythnos iechyd meddwl eleni.
Dywedodd: "Mae gen i dipyn o ddilynwyr ar y cyfryngau cymdeithasol ac yn y ddwy neu dair flwyddyn diwethaf dwi wedi gweld cymaint o godiad mewn problemau iechyd meddwl a phobl efo iselder a ddim yn teimlo yn nhw eu hunain.
"Dwi'n derbyn negeseuon bob dydd ac wedi bod yn siarad efo person oedd yn barod i gymryd ei bywyd ei hunain am awr a hanner un noson a chael hyd i elusen oedd yn medru helpu'r person yma."
Cyfnod anodd
Mae Gareth yn cydymdeimlo gyda'r hyn mae'n ei alw'n 'argyfwng' ac yn dweud ei fod ef ei hun wedi ei chael hi'n anodd ar adegau: "Mae TB yn creu gymaint o straen meddwl a straen pres.
"Ac aethon ni drwy foot and mouth ac hefyd yr eira mawr – fel ti'n mynd yn hŷn ella bod ti ddim yn medru cymryd y straen yr un fath.
"Ond oedd o allan o'n nwylo i, dyna o'n i'n teimlo. Efo'r eira mawr oeddan ni'n gwybod fedrwn ni ond 'neud ein gorau.
"A'r un fath efo foot and mouth – ond mae 'na ffordd fedrwn ni reoli TB wrth ddod a'r niferoedd o foch daear i lawr.
"'Sa neb eisiau gwrando. Mae hwnna'n rhwystredig i lot o ffermwyr bod nhw'n teimlo bod neb yn gwrando."

Effaith y straen
Meddai Gareth am y cyfnodau mae e wedi dioddef gyda'i iechyd meddwl: "Mae o'n straen sy' tu ôl i feddwl rhywun. Mae o'n rhywbeth sy' ddim yn stopio mynd rownd yn dy ben di. Ti ddim yn cysgu yr un fath yn y nos.
"Dwi'n berson cryf yn feddyliol ond weithiau ti'n codi yn y bore a meddwl 'da ni isho gwneud TB test' a ti wedi cysgu rhyw 2-3 awr yn troi a throsi. Ti'n codi, ti'n meddwl amdano a ti ddim yn mynd yn ôl i gysgu a dwi'n meddwl se'n braf os fydden ni'n cael bach o barch gan ein llywodraeth.
"Mae'r archfarchnadoedd yr un fath am fod nhw isho gwerthu pethau yn rhad. 'Dan ni isho pris teg am beth ni'n cynhyrchu."
Mi wnaeth Gareth ymdopi gyda'r straen drwy barhau i siarad, meddai: "Siarad efo'r wraig, siarad efo ffrindiau.
"Oedd o'n flwyddyn o straen ond oedd o ddim bob dydd ac dwi'n feddyliol yn gryf, mae gen i wraig dda a ffrindiau ffantastig.
"Mae hwnna'n bwysig bod ti'n medru rhannu dy faich efo pobl sy'n deall dy broblemau di – ac weithiau gollwng bob dim allan efo rhywun sy'n estron ella."
Yn ystod wythnos iechyd meddwl mae Gareth wedi cyflwyno rhaglen newydd ar gyfer S4C, Yr Argyfwng Iechyd Meddwl Mewn Ffermio, lle mae'n cael trafodaeth emosiynol gyda ffermwyr am iechyd meddwl.
Meddai: "Oedd o'n anodd gwrando arnyn nhw – mae pobl yn cymryd eu bywydau eu hunain. Mae'n rhywbeth sy'n digwydd yn wythnosol.
"Fel 'dach chi'n clywed ar y rhaglen mae un ffarmwr odro â gymaint o ofn i bobl nabod ei wyneb o neu glywed ei lais o 'da ni'n ei guddio fo.
"Yn 2025 pan ddylai fod rhywun yn cuddiad am fod ganddo fo ofn y cwmnïau mawr yma i dynnu i ffwrdd ei gontract llefrith o?
"Pobl 'dan ni yn y diwedd. Mae'r gwaith papur yn aruthrol ar y diwydiant – mae hwnna isho cael ei sbïo arno fo. 'Da ni'n neud y gwaith efo anifeiliaid yn y dydd ac yn llenwi papur yn y nos.
"Mae 'na gymaint o bwysau wedyn ar y ffarmwr falle mae'n codi un bore a mae o'n ista reit ar waelod yr ysgol. Mae'n drist ac mae'n anodd cael rhywun i godi fyny'r ysgol eto.
"Mae'r pobl dwi'n adnabod yn y diwydiant yn gweithio'n galed ac yn talu'r ffordd. 'Da ni'n cael 1% return ar ein investment ni. Does 'na ddim un diwydiant yn y byd yn neud be' mae ffermwyr yn neud. 'Da ni ddim yn chwilio am bres am ddim, 'da ni isho pris teg am beth 'da ni'n cynhyrchu."

Gareth yn siarad gyda ffermwr yn y rhaglen Yr Argyfwng Iechyd Meddwl Mewn Ffermio
Stigma
Yn draddodiadol mae 'na bwysau wedi bod ar ffermwyr i fod yn gryf ac i beidio rhannu unrhyw broblemau iechyd meddwl, yn ôl Gareth, ond mae hyn yn dechrau gwella: "Dwi'n meddwl bod pobl yn fwy agored i siarad am eu problemau.
"Does 'na ddim erioed wedi bod gymaint o elusennau iechyd meddwl yn y wlad. Mae'n rhaid i ni ofyn i'n hunain pam mae hynna?
"Mae llawer ohonom ni yn y diwydiant yn teimlo yr un fath – bod ein lleisiau ni ddim yn cael ein clywed gan y llywodraeth, yr archfarchnadoedd a'r cyfryngau.
"Ac os 'dan ni ddim yn gwybod beth yw'r problemau fedrwn ni ddim cael yr atebion. Mae lot o broblemau ac maen nhw'n multilayered a dydy o ddim yn mynd i fod yn helpu pobl sy' efo problemau iechyd meddwl.
"Dwi'n cael dweud beth dwi isho ar y cyfryngau cymdeithasol ac mae hwnna'n bwysig – rhaid i ni fod yn onest efo'n gilydd er mwyn cael atebion."
Felly beth yw cyngor Gareth i ffermwyr efo problemau iechyd meddwl?
Meddai: "Eisteddwch lawr am sgwrs - mae 'na ateb i bob problem. Os chi mewn lle tywyll mae 'na elusennau ar gael i'ch helpu. Mae 'na bobl sy' wedi cael eu dysgu i helpu."
Gwyliwch Yr Argyfwng Iechyd Meddwl Mewn Ffermio ar BBC iPlayer.
Ymateb Llywodraeth Cymru
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydyn ni'n benderfynol o ddileu TB gwartheg yn Cymru, ac yn cydnabod yr effaith ar ffermydd, ffermwyr a'u teuluoedd.
"Rydyn ni wedi gwrando ar y pryderon a godwyd dros wahanol agweddau ar TB gwartheg ac yn parhau i weithio mewn partneriaeth gyda'r diwydiant, fel nodir yn ein Cynllun Gweithredu 5 mlynedd.
"Mae hyn yn cynnwys gwaith y Grŵp Cynghori Technegol, sydd eisoes wedi cyflwyno cyngor arbenigol ar bynciau penodol. O ganlyniad, rydyn ni wedi gwneud dau newid sylweddol i'n ymdriniaeth bolisi. Mae'r Bwrdd Rhaglen TB newydd, dan arweiniad ffermwyr, bellach wedi ei sefydlu, ac mae'r ddau grŵp yn ystyried cynllun gwaith ac yn awyddus i ystyried pob agwedd."
Ychwanegodd y llefarydd: "Mae gwella iechyd meddwl a lles yn flaenoriaeth i ni.
"Rydyn ni'n ymwybodol bod ffermwyr yn wynebu llawer o heriau, gan gynnwys ansicrwydd, unigedd ac unigrwydd, all gael effaith niweidiol ar eu lles meddyliol.
"Mae'n hanfodol ein bod yn gwneud popeth allwn ni i godi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd cynnal iechyd meddwl a chorfforol, yn ogystal â hyrwyddo'r cymorth a'r gefnogaeth sydd ar gael a sut gall pobl eu cyrraedd."
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb
- Cyhoeddwyd27 Gorffennaf 2023
- Cyhoeddwyd23 Ionawr 2024