/** * https://gist.github.com/samthor/64b114e4a4f539915a95b91ffd340acc */ (function() { var check = document.createElement('script'); if (!('noModule' in check) && 'onbeforeload' in check) { var = false; document.addEventListener('beforeload', function(e) { if (e.target === check) { = true; } else if (!e.target.hasAttribute('nomodule') || !) { return; } e.preventDefault(); }, true); check.type = 'module'; check.src = '.'; document.head.appendChild(check); check.remove(); } }());

'Pe bai Mam yn cael diagnosis heddiw, efallai byddai mwy o amser ganddi'

Llun o Caitlyn a'i mam yn cofleidio. Mae mam Caitlyn yn gwisgo ffrog ddu ac mae Caitlyn yn gwisgo het haul. Mae Caitlyn yn ferch ifanc yn y llun.Ffynhonnell y llun, Caitlyn Nye
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Caitlyn yn naw mlwydd oed pryd cafodd ei fam diagnosis o ganser y fron yn y cam mwyaf difrifol

  • Cyhoeddwyd

Mae menyw bu colli ei mam i ganser yn credu pe bai iddi gael diagnosis heddiw, bydd ganddi fwy o amser.

Bu farw mam Caitlyn Nye yn 2015 ar ôl iddi dderbyn diagnosis hwyr o ganser y fron yn y cam mwyaf difrifol.

Yn y 10 mlynedd ers i Christine Nye dderbyn ei diagnosis, mae'r gyfradd goroesi pum mlynedd canser y fron wedi codi 9% yng Nghymru.

"Pe bai Mam yn cael diagnosis heddiw mae siawns y byddai'r canser wedi ei ddal yn gynt ac mae siawns byddai i wedi cael mwy o amser gyda hi," meddai Caitlyn.

Eleni, i godi arian dros Ymchwil Canser penderfynodd ail-wneud yr un ras a redodd i nodi marwolaeth ei mam ddegawd yn ôl.

'Galaru o'r eiliad hynny ymlaen'

Daeth Christine Nye o hyd i lwmp brasterog yn ei bron yn 2011, ond heb feddwl lot amdani, cymerodd sbel i ymweld â doctor.

Misoedd yn ddiweddarach fe gafodd ddiagnosis o ganser y fron, cam pedwar a chael gwybod fod y canser wedi lledaenu ar draws ei chorff.

Yn y cam mwyaf difrifol mae triniaeth canser yn canolbwyntio ar wella ansawdd bywyd, yn hytrach na chael gwared â'r clefyd.

Disgrifiodd Caitlyn o Sir Gaerffili y "panig llwyr" o ddarganfod fod ei mam hi'n sâl.

"Dechreuais alaru dros fy mam o'r eiliad hynny ymlaen, gan wybod mai dim ond ychydig o flynyddoedd oedd gen i ar ôl gyda hi," meddai.

Selfie o Caitlyn a'i chwaer gyda'i tafod yn procio allanFfynhonnell y llun, Caitlyn Nye
Disgrifiad o’r llun,

Penderfynodd Caitlyn a'i chwaer redeg y ras am y tro cyntaf yn 2015 i "ddathlu bywyd" eu mam

Yn dilyn dros dair blynedd o driniaeth, bu farw Christine Nye ar 28 Mehefin 2015, yn 52 mlwydd oed.

"Mae'n anodd iawn meddwl yn ôl i'r cyfnod yna," meddai Caitlyn.

"Ond rwy'n deall nawr, pa mor galed oedd Mam wedi brwydro a pa mor gryf oedd hi."

Yn y misoedd a ddilynodd farwolaeth eu mam, penderfynodd Caitlyn a'i chwiorydd redeg ras Ymchwil Canser, Race for Life yng Nghaerdydd.

"Roedd yn gam bwysig iawn yn y broses o alaru," meddai.

"I geisio derbyn beth oedd wedi digwydd a cheisio helpu pobl eraill."

Deg mlynedd yn ddiweddarach, penderfynodd redeg y ras eto er cof am ei mam, ac i atgoffa pobl nad yw'r frwydr gyda chanser wedi gorffen.

"Pan mae rhywun agos atoch chi'n marw, rydych chi'n galaru bob dydd," meddai Caitlyn.

"Ond eleni roeddwn i eisiau gwneud rhywbeth arbennig, i atgoffa fy mam nad ydw i wedi anghofio amdani."

graff

Yn ôl data gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, mae cyfradd goroesi pum mlynedd canser y fron yn y cam mwyaf difrifol wedi cynyddu gan 9% yng Nghymru.

Mae hyn yn gynnydd o 17.6% yn 2011 i 26.7% yn 2021.

Dywedodd Caitlyn: "Mae gwybod fod pethau wedi newid cymaint mor gyflym yn gysur mawr i mi... pe bai Mam yn cael diagnosis heddiw, efallai bydd mwy o amser ganddi."

"Mae codi arian a chodi ymwybyddiaeth, hyd yn oed ar raddfa fach wedi cael effeithiau syfrdanol ar fywydau pobl."

Pedwar merch yn gwisgo crysau tu du a twtws pinc yn sefyll tu fas. Ffynhonnell y llun, Caitlyn Nye
Disgrifiad o’r llun,

Roedd cwblhau'r ras gyda'i ffrindiau yn "sbesial iawn" yn ôl Caitlyn

Cododd Caitlyn a'i grŵp o ffrindiau £1,000 i'r elusen Ymchwil Ganser ond eu nod ehangach oedd codi ymwybyddiaeth o symptomau canser y fron.

Dywedodd Caitlyn: "Os yw clywed stori fy mam yn gysur i bobl eraill, neu'n atgoffa rhywun i gael eu bronnau wedi'u gwirio, yna mae hynny'n golygu'r byd i mi."

Yn ôl Ruth Amies, llefarydd dros Ymchwil Canser yng Nghymru, cafodd £340,000 ei godi ar draws penwythnos Race for Life Caerdydd ddechrau Mai, gyda 4,000 o bobl yn rasio.

"Mae pob punt a godir yn cefnogi'r gwaith sy'n hanfodol wrth achub bywydau," meddai.

"Ers i Race for Life ddechrau ym 1994, mae cyfraddau goroesi canser wedi parhau i wella.

"Ein gweledigaeth yw byd lle mae pawb yn byw yn hirach yn rhydd rhag ofn canser.

"Mae ymchwil a ariennir gan Ymchwil Canser wedi helpu i ddyblu cyfraddau goroesi canser y fron yn y DU."

Pynciau cysylltiedig