Teuluoedd pedwar fu farw yn beirniadu perchennog cwmni padlfyrddio

Nerys Bethan Lloyd y tu allan i'r llys yn ystod gwrandawiad blaenorol
- Cyhoeddwyd
Mae perchennog cwmni padlfyrddio oedd yn gyfrifol am farwolaethau pedwar person ar Afon Cleddau wedi wynebu beirniadaeth hallt gan eu teuluoedd yn ei gwrandawiad dedfrydu.
Bu farw Paul O'Dwyer, 42, Andrea Powell, 41, Morgan Rogers, 24, a Nicola Wheatley, 40, yn y digwyddiad ar Afon Cleddau yn Sir Benfro.
Roedd Nerys Bethan Lloyd - cyn-swyddog heddlu 39 oed o Bort Talbot - eisoes wedi pledio'n euog i ddynladdiad ar sail esgeulustod difrifol yn dilyn y daith badlfyrddio yn 2021.
Lloyd oedd yn berchen ar gwmni padlfyrddio Salty Dog, ac fe blediodd yn euog hefyd i un drosedd dan y Ddeddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith.
Ar ddiwrnod cyntaf ei gwrandawiad dedfrydu, clywodd Llys y Goron Abertawe fod Lloyd "yn berson twyllodrus ac anghymwys", yn ôl teulu un fu farw.

O'r chwith uchaf gyda'r cloc: Paul O'Dwyer, Morgan Rogers, Andrea Powell a Nicola Wheatley
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r digwyddiad toc wedi 09:00 ar fore Sadwrn 30 Hydref 2021, wedi i griw o bobl fynd i drafferthion yn y dŵr.
Bu farw Mr O'Dwyer, 42 o Aberafan, Ms Rogers, 24 o Ferthyr Tudful, a Ms Wheatley, 40 o Bontarddulais, yn yr afon.
Wythnos yn ddiweddarach, ar 5 Tachwedd, bu farw Andrea Powell, 41 o Ben-y-bont ar Ogwr, yn Ysbyty Llwynhelyg.
Yn 2022, fe wnaeth adroddiad swyddogol feirniadu'r ffordd y cafodd y daith ei threfnu.
Nid yw cwmni Nerys Bethan Lloyd, Salty Dog, yn weithredol ers mis Mawrth 2024.
Dywedodd arolygydd y Gangen Ymchwilio i Ddamweiniau Morol (MAIB) fod y ddamwain yn "drasig ac y gellir fod wedi ei hosgoi".

Aeth y padlfyrddwyr i drafferthion ar y gored yma, y tu allan i neuadd y sir yn Hwlffordd
Roedd naw o bobl yn rhan o'r daith ar y diwrnod hwnnw.
Aeth pedwar ohonynt i drafferthion mewn cored ar Afon Cleddau Wen tu allan i neuadd y sir yn Hwlffordd.
Dywedodd yr adroddiad eu bod yn sownd yno, "gyda dim modd dianc".
Ychwanegodd, er bod yr arweinwyr yn badlfyrddwyr profiadol, doedd ganddyn nhw "ddim profiad o ddysgu pobl amhrofiadol ar afonydd sy'n llifo'n gyflym".
'Ddim yn gymwys o bell ffordd'
Rhybudd: Mae cynnwys isod all beri gofid.
Roedd y galeri gyhoeddus yn llawn emosiwn ddydd Mawrth, ac yn orlawn gyda theulu'r diffynnydd a theuluoedd y dioddefwyr.
Dywedodd yr erlynydd Mark Watson KC wrth y llys fod Lloyd a'i phartner busnes Paul O'Dwyer - fu farw yn y digwyddiad - "ddim yn gymwys o bell ffordd" i gynnal teithiau o'r fath.
Dim ond "cymhwyster lefel mynediad sylfaenol" oedd ganddyn nhw, nad oedd yn addas ar gyfer y daith roedden nhw'n ei harwain.
Yn ei ddatganiad personol fe ddywedodd Mark Powell, gŵr Andrea Powell: "Roedd methiannau Nerys Lloyd yn aruthrol. Sut y gallai heddwas ganiatáu i hyn ddigwydd">