/** * https://gist.github.com/samthor/64b114e4a4f539915a95b91ffd340acc */ (function() { var check = document.createElement('script'); if (!('noModule' in check) && 'onbeforeload' in check) { var = false; document.addEventListener('beforeload', function(e) { if (e.target === check) { = true; } else if (!e.target.hasAttribute('nomodule') || !) { return; } e.preventDefault(); }, true); check.type = 'module'; check.src = '.'; document.head.appendChild(check); check.remove(); } }());

Geraint Thomas yn cadw trydydd safle'r Giro d'Italia

Geraint Thomas yn cystadlu yn y Giro d'Italia eleniFfynhonnell y llun, Reuters
Disgrifiad o’r llun,

Mae Geraint Thomas wedi sicrhau lle ar y podiwm yn Rhufain ddydd Sul

  • Cyhoeddwyd

Mae Geraint Thomas wedi dal gafael ar drydydd safle'r Giro d'Italia ar ddiwedd cymal cystadleuol olaf y ras.

Roedd gorffen yn seithfed yng Chymal 20 yn ddigon da i'r Cymro - ar ddiwrnod ei ben-blwydd yn 38 oed - sicrhau lle ar y podiwm ddydd Sul.

Fe lwyddodd y seiclwr 25 oed o Slofenia, Tadej Pogacar, i estyn ei fantais wrth orffen yn gyntaf am y chweched tro yn y ras.

Mae'r bwlch rhyngddo a'r seiclwr yn yr ail safle - Daniel Martinez o Golombia - bellach bron yn 10 munud.

Gorymdaith i bob pwrpas yw'r cymal olaf i Rufain ddydd Sul ble mae'r sawl sydd ar y brig yn cael ei goroni'n enillydd.

Pynciau cysylltiedig