/** * https://gist.github.com/samthor/64b114e4a4f539915a95b91ffd340acc */ (function() { var check = document.createElement('script'); if (!('noModule' in check) && 'onbeforeload' in check) { var = false; document.addEventListener('beforeload', function(e) { if (e.target === check) { = true; } else if (!e.target.hasAttribute('nomodule') || !) { return; } e.preventDefault(); }, true); check.type = 'module'; check.src = '.'; document.head.appendChild(check); check.remove(); } }());

Cefnogwr Wrecsam yn gwella wedi iddo fynd i'r ysbyty yn ystod gêm

gemFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Bu'n rhaid atal y gêm wedi 77 munud er mwyn delio â digwyddiad meddygol

  • Cyhoeddwyd

Dywed Clwb Pêl-droed Wrecsam bod cefnogwr a gafodd ei daro yn sâl ddydd Sadwrn yn ystod ei gêm oddi cartref yn erbyn Wycombe Wanderers yn gwella yn yr ysbyty.

Bu'n rhaid atal y gêm wedi 77 munud er mwyn delio â'r digwyddiad, medd y clwb, ac fe ychwanegodd llefarydd bod y cefnogwr yn anadlu, yn ymwybodol ac mewn cyflwr sefydlog pan aed ag ef i'r ysbyty.

Mae e'n gwella wedi iddo gael triniaeth frys bellach, medd datganiad.

Mae Clwb Pêl-droed Wrecsam yn anfon eu cofion at y cefnogwr ac yn dymuno iddo adferiad buan ac mae'r clwb hefyd am ddiolch i'r tîm meddygol, y staff a holl gefnogwyr Wycombe Wanderers am ymateb mor sydyn i'r digwyddiad.

Wrecsam oedd yn fuddugol yn Adams Park gan sgorio yn y munudau olaf wedi i'r gêm gael ei hatal am 20 munud.

Ar ei gyfrif X dywedodd y cyd-berchennog Ryan McElhenney: "Ry'n ni gyd mor falch o'r bechgyn a'u buddugoliaeth anhygoel.

"Ond ry'n yn meddwl am y cefnogwr a gafodd ei ruthro i'r ysbyty ac yn dymuno gwellhad buan iddo."

Pynciau cysylltiedig