/** * https://gist.github.com/samthor/64b114e4a4f539915a95b91ffd340acc */ (function() { var check = document.createElement('script'); if (!('noModule' in check) && 'onbeforeload' in check) { var = false; document.addEventListener('beforeload', function(e) { if (e.target === check) { = true; } else if (!e.target.hasAttribute('nomodule') || !) { return; } e.preventDefault(); }, true); check.type = 'module'; check.src = '.'; document.head.appendChild(check); check.remove(); } }());

Cyhoeddi rhestr fer Llyfr y Flwyddyn 2025

Llyfr y FlwyddynFfynhonnell y llun, Llenyddiaeth Cymru
  • Cyhoeddwyd

Mae Llenyddiaeth Cymru wedi datgelu enwau'r cyfrolau sydd wedi cyrraedd Rhestr Fer Gwobr Llyfr y Flwyddyn 2025.

Cafodd y rhestr ei datgelu, sy'n cynnwys 12 o lyfrau mewn pedwar categori, ar raglen Ffion Dafis ar BBC Radio Cymru brynhawn Sul.

Bydd enillydd pob categori yn derbyn £1,000 a bydd £3,000 yn ychwanegol i enillwyr y brif wobr yn y ddwy iaith ynghyd â thlws Llyfr y Flwyddyn.

Yn ogystal â'r beirniadu, bydd cyfle i'r darllenwyr fynegi eu barn wrth i Golwg 360 a Nation Cymru gynnal pleidleisiau Barn y Bobl.

'Cyfoeth' o lyfrau Cymraeg

Y beirniaid oedd â'r dasg o ddewis y rhestr fer oedd y bardd a'r dramodydd arobryn Menna Elfyn; yr awdur ac enillydd gwobr Barn y Bobl 2023 Gwenllian Ellis; y llenor a'r dramodydd Dr Miriam Elin Jones, sy'n ddarlithydd yn y Gymraeg ym Mhrifysgol Abertawe; a'r awdur a'r cyfieithydd Hammad Rind.

Dywedodd Gwenllian Ellis bod y rhestr fer "yn gyfoeth o lyfrau a chyfrolau sy'n dangos fod llenyddiaeth Cymru yr un mor gyffrous ag y bu erioed".

Fe ychwanegodd Miriam Elin Jones ei bod yn "edrych ymlaen yn arw at weld darllenwyr ledled Cymru'n darllen y testunau rydym ninnau wedi'u mwynhau".

Meddai Hammad Rind fod y rhestr fer "yn amlygu'r llenyddiaeth fwyaf rhagorol i blant ac oedolion ifanc sy'n cael ei chreu yng Nghymru ar hyn o bryd".

Mari George oedd enillydd y brif wobr a'r wobr ffuglen yn 2024 gyda'i gyfrol Sut i Ddofi Corryn.

Rhestr Fer Gymraeg 2025

Gwobr Ffuglen – Noddir gan HSJ ants

  • Nelan a Bo, Angharad Price (Y Lolfa)

  • Madws, Sioned Wyn Roberts (Gwasg y Bwthyn)

  • V + Fo, Gwenno Gwilym (Gwasg y Bwthyn)

Gwobr Farddoniaeth

  • Rhuo ei distawrwydd hi, Meleri Davies (Cyhoeddiadau'r Stamp)

  • Pethau sy'n Digwydd , Siôn Tomos Owen (Cyhoeddiadau Barddas)

  • O'r Rhuddin, Sioned Erin Hughes (Y Lolfa)

Gwobr Ffeithiol Greadigol

  • Oedolyn (ish!), Melanie Owen (Y Lolfa)

  • Camu, Iola Ynyr (Y Lolfa)

  • Casglu Llwch, Georgia Ruth (Y Lolfa)

Gwobr Plant a Phobl Ifanc – Cefnogir gan Cronfa Elw Park-Jones

  • Cymry. Balch. Ifanc., Golygwyd gan Llŷr Titus a Megan Angharad Hunter (Rily Publications LTD)

  • Arwana Swtan a'r Sgodyn Od, Angie Roberts a Dyfan Roberts (Gwasg y Bwthyn)

  • Rhedyn, Myrddin ap Dafydd (Gwasg Carreg Gwalch)

Rhestr Fer Saesneg 2025Ffynhonnell y llun, Llenyddiaeth Cymru

Rhestr Fer Saesneg 2025

Y Wobr Farddoniaeth

Girls etc, Rhian Elizabeth (Broken Sleep Books)

Little Universe, Natalie Ann Holborow (Parthian Books)

Portrait of a Young Girl Falling, Katrina Moinet (Hedgehog Poetry Press)

Gwobr Ffuglen Ymddiriedolaeth Rhys Davies

Earthly Creatures, Stevie Davies (Honno)

Clear, Carys Davies (Granta)

Glass Houses, sca Reece (Headline Publishing Group, Tinder Press)

Gwobr Ffeithiol Greadigol Hadio

Tir: The Story of the Welsh Landscape, Carwyn Graves (Calon Books)

Nightshade Mother: A Disentangling, Gwyneth Lewis (Calon Books)

Nature's Ghosts: The world we lost and how to bring it back, Sophie Yeo (HarperNorth)

Gwobr Plant a Phobl Ifanc

A History of My Weird, Chloe Heuch (Firefly Press)

Fallout, Lesley Parr (Bloomsbury)

Why Did My Brain Make Me Say It?, Sarah Ziman (Troika)

'Un o uchafbwyntiau'r flwyddyn'

Dywedodd Leusa Llewelyn, Cyfarwyddwr Artistig Llenyddiaeth Cymru: "Dyma un o uchafbwyntiau'r flwyddyn i mi – derbyn rhestrau darllen o'r llyfrau gorau un sydd wedi eu cyhoeddi yn y flwyddyn flaenorol gan banel arbenigol.

"Diolch o galon i'r beirniaid am eu gwaith darllen diwyd. Llongyfarchiadau mawr i awduron y rhestrau byrion – gobeithio y bydd y cyhoeddiad hwn yn ysgogiad pellach i ddarllenwyr heidio i'w siop lyfrau neu eu llyfrgell leol.

"Dwi'n edrych ymlaen yn fawr i weld pwy fydd yn fuddugol yn ein seremoni fawreddog yng Nghaerdydd fis Gorffennaf."

Mae Gwobr Llyfr y Flwyddyn wedi ei chynnal gan Llenyddiaeth Cymru - y cwmni cenedlaethol ar gyfer datblygu llenyddiaeth - ers 2004.

Bydd un o'r enillwyr categori yn mynd ymlaen i ennill y brif wobr a hawlio teitl Llyfr y Flwyddyn 2025.

Bydd enillwyr Gwobr Llyfr y Flwyddyn yn cael eu cyhoeddi mewn seremoni wobrwyo yn Theatr Sherman, Caerdydd nos Iau, 17 Gorffennaf.