/** * https://gist.github.com/samthor/64b114e4a4f539915a95b91ffd340acc */ (function() { var check = document.createElement('script'); if (!('noModule' in check) && 'onbeforeload' in check) { var = false; document.addEventListener('beforeload', function(e) { if (e.target === check) { = true; } else if (!e.target.hasAttribute('nomodule') || !) { return; } e.preventDefault(); }, true); check.type = 'module'; check.src = '.'; document.head.appendChild(check); check.remove(); } }());

Dileu grantiau ôl-radd i 'ddyfnhau' rhaniadau cymdeithas

PrifysgolFfynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

O fis Medi, dim ond benthyciadau bydd ar gael i fyfyrwyr ar gyrsiau meistr

  • Cyhoeddwyd

Mae grwpiau myfyrwyr wedi galw ar Lywodraeth Cymru i beidio â dileu grantiau ar gyfer cyrsiau ôl-raddedig.

Dim ond benthyciadau fydd ar gael i fyfyrwyr ar gyrsiau meistr o fis Medi ymlaen.

Mae’n rhan o gyllideb sy’n torri'n ôl mewn sawl maes er mwyn gwarchod gwariant ar wasanaethau eraill, gan gynnwys gofal iechyd.

Mae Llywodraeth Cymru, sydd hefyd wedi cyhoeddi cynnydd yn uchafswm cost ffioedd dysgu yr wythnos hon, yn dweud eu bod am ddiogelu cyllid ar gyfer addysg graidd.

Beth yw'r sefyllfa i fyfyrwyr ôl-raddedig?

Ers 2019, mae ôl-raddedigion wedi cael cynnig cyllid o hyd at £18,000, ac mae o leiaf £1,000 ohono ar ffurf grant.

Gall y grant godi i £6,885 yn dibynnu ar incwm y teulu.

Roedd grantiau'n cael eu talu i tua 6,200 o fyfyrwyr yn y flwyddyn academaidd ddiwethaf.

Fe fydd myfyrwyr sydd eisoes yn derbyn grantiau yn parhau i gael eu talu, ond fe fydd myfyrwyr newydd ond yn gallu benthyg arian o fis Medi.

Mabon EvansFfynhonnell y llun, Llun Cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Dywed Mabon Evans bod grantiau wedi bod yn help "enfawr" iddo pan ddechreuodd ei gwrs ôl-radd yn 2022

Ers cwblhau gradd meistr mewn llywodraeth a gwleidyddiaeth Cymru ym Mhrifysgol Caerdydd llynedd, mae Mabon Evans yn chwilio am swyddi. 

Roedd yr argyfwng costau byw ar ei anterth pan ddechreuodd Mr Evans, 26 oed o Benarth, y cwrs yn 2022.

Derbyniodd grant gan y llywodraeth, yn ogystal â benthyciad, a dywedodd bod hynny’n help “enfawr” iddo gychwyn ar y cwrs.

“Nes i ddewis mynd 'nôl i ’r brifysgol mewn amser o chwyddiant uchel ac roedd costau byw yn mynd lan ym mhopeth," meddai.

“Ar y pryd o’n i’n pryderu ydy hwn yn syniad da">