150 milltir mewn saith diwrnod... lluniau her anferth Aled Hughes
- Cyhoeddwyd
150 o filltiroedd. Saith diwrnod. Dwy droed. Un Aled Hughes blinedig iawn!
Bob blwyddyn bydd y cyflwynydd BBC Radio Cymru yn gwneud her i gasglu arian i Blant Mewn Angen. Sialens 2024 oedd cerdded ar hyd llwybr Taith Pererin Gogledd Cymru o Dreffynnon i Aberdaron... mewn wythnos.
Ac fe lwyddodd - diolch i gefnogaeth nifer o bobl ar hyd y daith, fel mae'r lluniau yma yn ei ddangos.
Mae pob un cyfraniad yn cael ei werthfawrogi: bbc.co.uk/plantmewnangen, dolen allanol

Dim troi'n ôl rŵan Aled... dechrau'r daith yn ardal Treffynnon gyda'r cerddor Morgan Elwy yn gwmni ar y diwrnod cyntaf a Merfyn 'Smyrff' Jones, oedd yn arwain y daith am y saith diwrnod

Roedd maint y coed yng nghoedwig Allt y Tywod tu allan i Bant y Wacco yn adlais o faint y sialens. Mae Taith Pererin Gogledd Cymru yn 135 milltir o hyd ond byddai llwybr Aled yn golygu cerdded 15 milltir yn ychwanegol

Bach o hwne... roedd angen egni wrth gerdded y 22.7 milltir rhwng Treffynnon a Llanelwy ar y diwrnod cyntaf

Dechrau da i Ddiwrnod 2 gyda brecwast buarth diolch i Alun a Carol, Fferm Croenllwm, Llanefydd, a’r gymuned leol

Ar hyd y 23.1 milltir rhwng Llanelwy a Phandy Tudur fe gafwyd cân, croeso a phaned yn Y Red, Llansannan, gydag Elidir Glyn a Gwilym Bowen Rhys

Mae'n nosi'n gynnar fis Tachwedd... dod tuag at Bandy Tudur

Roedd cael cefnogaeth ar hyd y 22 milltir o Bandy Tudur i Lanfairfechan yn codi calon ac yn hwb

Roedd rhai o'r golygfeydd rhwng Pandy Tudur a Llanfairfechan hefyd yn codi'r ysbryd

Roedd Aled yn cael cwmni gwahanol bob dydd. Diwrnod 3, ac un oedd yn cadw cwmni iddo oedd y cyflwynydd a'r digrifwr Tudur Owen... a Pudsey wrth gwrs. Roedd croeso hefyd gan gymuned ac aelodau Merched y Wawr Eglwysbach

Abbey Road... neu'r Long and Winding Road?

Diwrnod 4, o Lanfairfechan i Gadeirlan Bangor, ac mae digon o waith dringo ar hyd Taith Pererin Gogledd Cymru

Ond roedd y cerddwyr yn ffodus iawn gyda'r tywydd unwaith eto

Er ei fod wedi ymlâdd, fe gyrhaeddodd Gadeirlan Bangor a chael croeso gan Faer Bangor Gareth Parry

Diwrnod 5 - a diwrnod caletaf y daith - felly roedd yn rhaid dechrau o'r Gadeirlan cyn toriad gwawr. Gydag Aled a 'Smyrff' am 0630 oedd Stephen Edwards (chwith) ac Irfon Jones

Ac roedd 'na groeso ymhobman ar hyd y 21 milltir o Fangor i Dalysarn...

... yn enwedig gan ddisgyblion Ysgol Gwaun Gynfi, Deiniolen

Aled ac Eilian Jones yn cerdded ger Moel Eilio, rhwng Llanberis a Waunfawr

Wedi ymlâdd, ond Aled, yma gyda chynhyrchydd ei raglen Fflur Williams, yn cadw cysylltiad gyda gwrandawyr BBC Radio Cymru

Diwrnod 6 - a golygfeydd cyfarwydd i'r hogyn o Ben Llŷn ar hyd y 20.1 milltir o Dalysarn i Forfa Nefyn

A'r croeso yn gynnes unwaith eto

Munud i feddwl yn Eglwys Beuno, Pistyll, cyn y cymal olaf

Diwrnod 7... ac Aberdaron o'r diwedd ar ôl 150 o filltiroedd ac Aled yn cael ei groesawu gan deulu, ffrindiau, pobl leol a chael ei holi i BBC Radio Cymru gan Ffion Emyr. Llongyfarchiadau!
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Tachwedd 2024
- Cyhoeddwyd11 Tachwedd 2019