Trên wedi gadael heb deithwyr a'u gadael mewn 'dryswch'

Roedd Trevor Greenfield a'i wraig ymhlith y grŵp o wyth o deithwyr a gafodd eu gadael yn Swindon
- Cyhoeddwyd
Mae cwpl o Gymru wedi cwyno ar ôl i yrrwr trên gorlawn eu hannog i fynd i ffwrdd i gael awyr iach, cyn gadael hebddyn nhw.
Roedd Trevor Greenfield, 74, a'i wraig, Eileen, 68, ymhlith y grŵp o wyth o deithwyr a gafodd eu gadael yn Swindon, ar ôl mynd ar y trên o Lundain i Gaerfyrddin.
"Roedd pobl mewn trallod ac yn ddryslyd," meddai Mr Greenfield, sydd o'r Barri.
Ychwanegodd ei fod yn "bryderus ac yn siomedig" nad oedd y gyrrwr wedi dweud eu bod yn gadael.
Ymddiheurodd cwmni Great Western Railway (GWR) am yr anghyfleustra a achoswyd.
'Mewn sioc'
Aeth Mr a Mrs Greenfield ar y trên o Lundain i dde Cymru ar 10 Ebrill, ond roedd yn orlawn o deithwyr oherwydd bod dau drên cynharach wedi'u canslo.
Bu'n rhaid iddyn nhw sefyll gyda 10 person arall mewn amodau poeth a chyfyng am oddeutu awr, nes i'r trên stopio yn Swindon, ble roedd oedi o tua chwarter awr.
Dywedodd Mr Greenfield fod y gyrrwr wedi cyhoeddi y byddai swyddog yn agor y drysau fel y gallan nhw fynd oddi arno a chael awyr iach wrth aros.

Aeth Mr a Mrs Greenfield ar y trên o Paddington yn Llundain i dde Cymru ar 10 Ebrill
Dywedodd Mr Greenfield fod grŵp o wyth o bobl wedi dod i ffwrdd a sefyll tua metr o'r trên, a'u bod yn aros i gael gwybod pryd i fynd yn ôl ymlaen.
Ond yna, heb unrhyw gyhoeddiad, fe gaeodd drysau'r trên ac fe ddechreuodd symud.
"Fel grŵp, roedden ni mewn sioc," meddai Mr Greenfield.
"Dechreuodd pobl weiddi a chwifio mewn panig ar y swyddog - oedd gryn bellter i ffwrdd."
Roedd eu bagiau hefyd ar fwrdd y trên a adawodd hebddynt.
Fe lwyddon nhw i gael trên o Swindon i Gaerdydd yn y pendraw, ac fe lwyddon nhw i gael eu bagiau yn ôl.
Mae Mr Greenfield wedi gwneud cwyn swyddogol i GWR, gan ei ddisgrifio fel "diwrnod hir a phryderus".
'Dim cyhoeddiad o gwbl'
Dywedodd teithiwr arall a gafodd ei adael yn Swindon, Liam Svensen, 23, fod y digwyddiad yn "siomedig ac annerbyniol".
"Doedd dim cyhoeddiad o gwbl i ddweud wrthyn ni am fynd yn ôl ar y trên," meddai.
Dywedodd llefarydd ar ran GWR eu bod yn "ymddiheuro i gwsmeriaid a gafodd eu heffeithio".
Ychwanegodd bod criwiau ar fwrdd y trên wedi gwneud y gwiriadau angenrheidiol cyn iddo ailddechrau.
"Rydyn ni'n deall fod rhai cwsmeriaid ddim wedi dod yn ôl ar y trên yn ystod y cyfnod yma, ac mae'n wir ddrwg gennym am yr anghyfleustra a achoswyd."