Pembrokeshire in spring // Sir Benfro yn y gwanwyn
- Cyhoeddwyd
Mae hi'n wanwyn yma yng Nghymru, ac mae'r tirlun yn edrych yn hynod hardd.
Cewch chi unman mwy hardd nag ardal Sir Benfro pan fo'r haul yn gwenu, a dyma gasgliad o luniau gan y ffotograffydd Mike Alexander, ble mae'n cyfuno sgiliau ffotograffiaeth ac ôl-gynhyrchu i greu casgliad hyfryd o luniau o Sir Benfro yn y gwanwyn.
Spring has arrived, with summer fast approaching, and Wales is currently exceptionally beautiful.
Local photographer Mike Alexander has captured this beauty in a wonderful collection of images of Pembrokeshire, skillfully combining his photography and post-production talents to showcase the season.

Un o draethau hyfryd niferus Sir Benfro // One of the many beautiful beaches of Pembrokeshire

Cafodd Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro ei sefydlu yn 1952 // The Pembrokeshire Coast National Park was established in 1952

Eryri oedd Parc Cenedlaethol cyntaf Cymru (1951), yna Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro (1952), a Bannau Brycheiniog yw'r diweddaraf (1957) // Eryri National Park was the first established in Wales (1951), then came Pembrokeshire Coast National Park (1952), and lastly Bannau Brycheiniog National Park (1957)

Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yw'r unig barc 'arfordirol' yng Ngwledydd Prydain, ac yn ogystal â'r milltiroedd o draethau mae nifer o ynysoedd // It is the only national park in the United Kingdom to consist largely of coastal landscapes, with miles of beaches and many islands

Yr haul ar y gorwel oddi ar yr arfordir // The view of the sunset from the coast of Pembrokeshire

Mae tua 125,000 o bobl yn byw yn Sir Benfro, gyda thua 23,000 yn byw o fewn ffiniau'r parc cenedlaethol // Roughly 125,000 people live in Pembrokeshire and around 23,000 live within the borders of the national park

Pyllau Lili Bosherston yn ne Sir Benfro // Bosherston Lily Ponds in southern Pembrokeshire

Pentref a phorthladd Porthgain // The village and port of Porthgain

Dinbych y Pysgod a waliau'r castell mewn golwg. Cafodd y castell ei adeiladu gan y Normaniaid yn y 12fed ganrif // Tenby and the walls of the castle. The castle was built by the Normans in the 12th century

Mae'r tirwedd creigiog yn gallu bod yn ddramatig ar hyd yr arfordir // The dramatic rocky terrain along the coast

Mynachdy Ynys Bŷr sydd tua milltir o borthladd Dinbych y Pysgod // Caldey Abbey on Caldey Island, about a mile from the port in Tenby

Y môr yn debyg i liw moroedd ynysoedd Y Môr Canoldir // The Mediterranean-like colours of the sea around Pembrokeshire

Mae Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn ymestyn dros ardal o tua 615km sgwâr // Pembrokeshire Coast National Park stretches over an area of around 615km sq

Staciau'r Heligog oddi ar arfordir deheuol Sir Benfro // Stack Rocks off the southern coast of Pembrokeshire

Cafodd rhannau o ffilm Robin Hood gyda Russell Crowe ei ffilmio ar draethau Sir Benfro yn 2010 // Robin Hood (2010) starring Russell Crowe is one of many films that was filmed on Pembrokeshire beaches

Gyda golygfeydd godidog fel hyn does dim syndod bod yr ardal yn fan hynod boblogaidd gyda thwristiaid // With views such as this it's no wonder that Pembrokeshire is so popular with tourists
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb:
- Cyhoeddwyd23 Tachwedd 2024
- Cyhoeddwyd1 Hydref 2023
- Cyhoeddwyd27 Rhagfyr 2023