Cerdded Cymru eto i gwblhau 11,000 milltir ar ôl canser

- Cyhoeddwyd
Un ar ddeg mlynedd ers iddi godi pac a cherdded 3,700 milltir drwy Gymru tra roedd yn dod dros driniaeth am ganser, a phedair blynedd ers cwblhau taith 5,500 milltir drwy Ewrop, mae dynes o'r Drenewydd yn ôl ar y lôn.
Y tro yma mae Ursula Martin yn cerdded 400 milltir drwy Gymru yn ymweld â siopau llyfrau i hyrwyddo'r ddwy gyfrol a ysgrifennodd am ei theithiau, One Woman Walks Wales a One Woman Walks Europe.
Yna, bydd hi'n cau pen y mwdwl drwy gerdded 1,300 milltir arall o Land's End i John O'Groats.
"Y rheswm roeddwn i eisiau gwneud y daith lyfrau yma oedd achos ro'n i wedi cerdded tua 9,000 o filltiroedd i gyd ar y daith drwy Gymru a thaith Ewrop ac ro'n i'n meddwl beth alla' i ei wneud i gael fy hun dros y 10,000 milltir">