/** * https://gist.github.com/samthor/64b114e4a4f539915a95b91ffd340acc */ (function() { var check = document.createElement('script'); if (!('noModule' in check) && 'onbeforeload' in check) { var = false; document.addEventListener('beforeload', function(e) { if (e.target === check) { = true; } else if (!e.target.hasAttribute('nomodule') || !) { return; } e.preventDefault(); }, true); check.type = 'module'; check.src = '.'; document.head.appendChild(check); check.remove(); } }());

Sefydlu eisteddfod leol wedi Prifwyl lwyddiannus Pontypridd

EisteddfodFfynhonnell y llun, Eisteddfod Genedlaethol
Disgrifiad o’r llun,

Wedi llwyddiant y Brifwyl mae'n fwriad cael eisteddfod arall ym Mhontypridd

  • Cyhoeddwyd

Wedi llwyddiant Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf 2024 mae'r rhai oedd ynghlwm â threfniadau'r brifwyl ym Mhontypridd wedi penderfynu cynnal eisteddfod arall.

Mewn cyfarfod diweddar roedd pawb yn gytûn, medd y cadeirydd Iolo Roberts, bod yn rhaid cael eisteddfod leol wedi bwrlwm y brifwyl ar Barc Ynysangharad.

"Eisteddfod Pontypridd fydd hi a'r bwriad yw ei chynnal fis Mehefin nesaf," meddai.

"Mae cael eisteddfod o'r fath wedi deillio yn uniongyrchol o waddol yr Eisteddfod Genedlaethol yn ein hardal ni.

"Mae Eisteddfod y Rhondda eisoes yn bodoli ac Eisteddfod y Cymoedd - fe fydd hi'n braf felly cael eisteddfod i'n rhan ni o'r ardal - sef ardal y Taf yng ngwaelod y cymoedd.

"Fe fydd y dalgylch, mae'n debyg, o gwmpas ardal Pontypridd a gobeithiwn ddenu disgyblion o ysgolion cynradd, Pontypridd, Garth Olwg, Llanhari ac ysgolion cynradd ardal Tonyrefail."

PontypriddFfynhonnell y llun, Eisteddfod Genedlaethol

Ychwanegodd Mr Roberts fod pobl yr ardal am "adeiladu ar y brwdfrydedd a gafwyd" cyn ac yn ystod y brifwyl ar Barc Ynysangharad.

"Roedd nifer yn teimlo eu bod wedi mwynhau y gwaith cymunedol, wedi joio'r cymdeithasu ac am i hynny barhau - pa ffordd well na chael eisteddfod arall">