Beirniadaeth Plaid Cymru yn 'sothach' - Starmer

"Rwyf am arwain gwlad lle rydym yn cyd-dynnu," meddai Syr Keir Starmer
- Cyhoeddwyd
Mae Syr Keir Starmer wedi cyhuddo arweinydd seneddol Plaid Cymru o siarad "sothach", ar ôl iddi feirniadu ei rybudd bod y DU mewn perygl o ddod yn "ynys o ddieithriaid" heb newidiadau i'r system fewnfudo.
Yng Nghwestiynau i'r Prif Weinidog, gofynnodd Liz Saville Roberts iddo a oedd "unrhyw gred sydd ganddo sy'n goroesi wythnos yn Downing Street">