/** * https://gist.github.com/samthor/64b114e4a4f539915a95b91ffd340acc */ (function() { var check = document.createElement('script'); if (!('noModule' in check) && 'onbeforeload' in check) { var = false; document.addEventListener('beforeload', function(e) { if (e.target === check) { = true; } else if (!e.target.hasAttribute('nomodule') || !) { return; } e.preventDefault(); }, true); check.type = 'module'; check.src = '.'; document.head.appendChild(check); check.remove(); } }());

Cyhoeddi 'Steddfod Genedlaethol arloesol'

Y seremoni cyhoeddi yn Arberth bore Sadwrn
Disgrifiad o’r llun,

Y seremoni cyhoeddi yn Arberth bore Sadwrn

  • Cyhoeddwyd

Mae heddiw yn ddiwrnod arbennig wrth i "Steddfod gwbl arloesol" gael ei gyhoeddi, medd Cadeirydd Pwyllgor Gwaith Eisteddfod Genedlaethol y Garreg Las.

Roedd y seremoni cyhoeddi yn Arberth ddydd Sadwrn yn nodi prifwyl 2026.

Wrth siarad â Cymru Fyw, dywedodd y cadeirydd John Davies y bydd hi'n "eisteddfod tri chornel - yn cwmpasu Sir Benfro, gogledd Sir Gâr a de Ceredigion", ac y bydd "cynrychiolaeth o'r tair sir yn cymryd rhan yn y seremoni".

Ychwanegodd bod "pawb yn cydweithio'n galed iawn" i godi'r £400,000 sy'n ofynnol, "a ni eisoes wedi codi £130,000 sydd yn newyddion cadarnhaol".

Narberth
Disgrifiad o’r llun,

Roedd tua 1,000 o bobl yn rhan o'r orymdaith yn Arberth cyn y seremoni

Cafodd y seremoni'r cyhoeddi ei chynnal ar lecyn glas Gwaun y Dref yn Arberth am 11:00.

Roedd tua 1,000 o bobl yn gorymdeithio trwy'r dref cyn cynnal y seremoni.

Dywedodd John Davies: "Mae'r eisteddfod yn rhywbeth dieithr i Arberth ond mae'n bwysig ein bod yn creu ymwybyddiaeth ar draws yr ardal a gan bwyll mae'r busnesau yma'n Arberth yn dechrau dod yn fwy ymwybodol o bwysigrwydd y digwyddiad.

"Mae 'na ymgais go iawn wedi bod yr wythnos hon i addurno'r dref ac mae ambell westy yn gobeithio elwa drwy wahodd pobl yno i frecwast cyn y seremoni.

"Does dim rhaid poeni'n ormodol am barcio - ry'n ni wedi sicrhau bod lle i o leiaf 700 o geir.

"Ni'n edrych ymlaen yn fawr at groesawu'r brifwyl. Mae yna ddigon o lety ond gan bod hon yn ardal sy'n boblogaidd gyda twristiaid fydden i'n annog pobl i fwcio llety yn ddigon cynnar.

"Mae yma ardaloedd gwbl hyfryd heb fod ymhell - Aberteifi, Llandudoch, Crymych a Thudraeth i enwi ond rhai - ond cewch ati yn gynt nac yn hwyrach i sicrhau llety."

Narberth

Y Prifardd Ceri Wyn, un o'r ardal, sydd wedi ysgrifennu y cywydd croeso, ac ymhlith y rhai a fydd yn cyfarch yn yr ŵyl gyhoeddi ddydd Sadwrn mae prifardd arall o'r ardal, Idris Reynolds.

cywydd croesoFfynhonnell y llun, Eisteddfod Genedlaethol
Disgrifiad o’r llun,

Y Prifardd Ceri Wyn yw awdur y cywydd croeso

Pan gyhoeddwyd mai yn Sir Benfro fyddai Eisteddfod Genedlaethol 2026 dywedodd prif weithredwr yr Eisteddfod, Betsan Moses, eu bod yn "edrych ymlaen at weithio mewn ffordd cwbl newydd gan ddod â rhannau o dair sir at ei gilydd i greu prosiect a gŵyl sy'n ddathliad o'n hiaith a'n diwylliant".

Mae 2026 hefyd yn nodi 850 o flynyddoedd ers cynnal yr Eisteddfod gyntaf yn Aberteifi yn 1176, dan nawdd yr Arglwydd Rhys.

Bydd yr Eisteddfod Genedlaethol yn cael ei chynnal yn ardal Llantwd rhwng 1-8 Awst 2026.