/** * https://gist.github.com/samthor/64b114e4a4f539915a95b91ffd340acc */ (function() { var check = document.createElement('script'); if (!('noModule' in check) && 'onbeforeload' in check) { var = false; document.addEventListener('beforeload', function(e) { if (e.target === check) { = true; } else if (!e.target.hasAttribute('nomodule') || !) { return; } e.preventDefault(); }, true); check.type = 'module'; check.src = '.'; document.head.appendChild(check); check.remove(); } }());

Arian tomenni glo 'i'w groesawu' ond 'ddim yn ddigon'

Tirlithriad Pendyrus, 2020.  Ffynhonnell y llun, Getty
Disgrifiad o’r llun,

Llithrodd 60,000 o dunnelli o wastraff i lawr ochr y mynydd ger Pendyrus yn 2020

  • Cyhoeddwyd

Mae tad sy'n poeni am ddiogelwch ei gartref bob tro mae'n glawio yn dweud ei fod yn croesawu'r newyddion am fwy o arian i drwsio hen domenni glo Cymru yn y Gyllideb.

Ond mae Phil Thomas, sy'n byw islaw un o gannoedd o dommeni sy'n cael eu hystyried yn rhai risg uchel, yn dweud bod yna gwestiynau yn parhau o ran ateb hir-dymor i'r broblem.

Mae'r gwrthbleidiau wedi rhybuddio nad yw'r £25m a gyhoeddwyd ar gyfer gwaith adfer yn agos at fod yn ddigonol.

Dywedodd Llywodraeth Cymru fod y Canghellor Rachel Reeves wedi ymateb i'w galwadau ar i Lywodraeth y DU gyfrannu at y gost o ddiogelu'r tomenni.

Phil Thomas
Disgrifiad o’r llun,

Mae Phil Thomas yn dweud ei fod yn poeni am ei gartref bod tro mae'n glawio ar ôl darganfod bod yna hen domen gerllaw

Daeth pryderon am ddiogelwch hen domenni glo Cymru i'r wyneb yn dilyn tirlithriad uwch Pendyrus yng nghwm Rhondda yn ystod glaw trwm storm Dennis, yn ôl yn 2020.

Tra bod llywodraeth Lafur Cymru a'r llywodraeth Geidwadol yn San Steffan ar y pryd wedi sefylu tasglu ar y cyd, roedd 'na anghytuno dros bwy ddylai fod yn talu am waith adfer.

Dadl gweinidogion ym Mae Caerdydd oedd bod y problemau'n deillio o gyfnod cyn datganoli, gan awgrymu y gallai gostio cymaint â £600m dros 10-15 mlynedd i ddelio a'r sefyllfa drwy Gymru.

Datgelodd asesiadadau gyfanswm o 2,573 o hen domenni glo, gyda 360 ohonyn nhw â'r potensial i gael effaith ar ddiogelwch y cyhoedd.

Plant Phil yn cerdded ar y domen lo.Ffynhonnell y llun, Clear South Wales' Coal Tips
Disgrifiad o’r llun,

Mae dros 2,500 o domenni glo yng Nghymru, y rhan fwyaf yng nghymoedd y de

Dywedodd Phil Thomas, a sefydlodd grŵp ymgyrchu Clear South Wales Coal Tips, fod y £25m yn y Gyllideb yn "newyddion i'w groesawu ac yn arwydd bod y ddwy lywodraeth yn cymryd y mater o ddifri'".

Ond mae'r tad i ddau o blant ifanc o Ynyshir, Rhondda Cynon Taf, yn mynnu mai'r "cwestiwn mawr yw ble mae'r Bil Tomenni Glo ry'n ni wedi bod yn aros amdano yng Nghymru am dros bedair blynedd">