Mari Grug: 'Dwi'n lwcus i fod 'ma'
- Cyhoeddwyd

"Oedd cyfnod rili tywyll ges i llynedd ym mis Tachwedd - wen i 'di gorffen chemo a'n aros am sgans. Trwy chemo wen i'n teimlo'n saff, dwi'n cofio lot yn dweud wrtha'i bydd chemo fel ffrind i ti - bydd e'n neud ti'n sâl ond mae rhaid ti weld e fel rhywbeth positif. Mae'n rhaid ti fynd trwyddo fe i ddod yn well."
Dyma'r agwedd bositif sy' wedi helpu'r gyflwynwraig Mari Grug i wynebu diagnosis a thriniaeth ar gyfer canser y fron ers mis Mai y llynedd.
Yn wyneb cyfarwydd ar ein sgrin deledu, mae stori'r fam 39 oed o Fynachlogddu wedi cydio yng nghalonnau nifer wrth iddi rannu ei diagnosis cychwynnol ac wedyn y ffaith fod y canser wedi lledu i'r nodau lymff a'r afu.
Mewn sgwrs arbennig gyda Cymru Fyw, mae Mari'n rhannu ei gobeithion ar gyfer y dyfodol a'r camau nesaf yn ei thriniaeth.
Gwrandewch ar Mari'n siarad am ei phrofiad ar BBC Sounds
Meddai: "Mae canser y fron metastatic 'da fi so mae'n ganser sy' wedi mynd o'r lle cychwynnol. Mae hwnna wastad yn waeth na un tiwmor mewn un man - mae un fi 'di dechrau trafeili ac mae egni 'da fe i fynd so mae sefyllfa fi bach yn wahanol.
"Ti ddim yn sylweddoli nes bod ti'n mynd trwyddo fe. Mae gymaint o wahanol fathau o ganser y fron - dwi'n mynd i gael radiotherapi nesa' ar ardal y fron i 'neud yn siŵr fod dim byd yn dod nôl.
"Dwi'n teimlo'n positif achos dwi mor falch bod nhw'n taflu popeth ata'i. Ar y dechre 'nathon nhw sôn os fydde canser fi wedi mynd o'r fron a'r nodau lymff i rywle arall, mai palliative care bydden i'n cael.
"Pan mae rhywun yn dweud rhywbeth fel 'na wrtho ti ti'n meddwl, 'beth am obeithio nawr bod e ddim wedi mynd i rhywle arall">