/** * https://gist.github.com/samthor/64b114e4a4f539915a95b91ffd340acc */ (function() { var check = document.createElement('script'); if (!('noModule' in check) && 'onbeforeload' in check) { var = false; document.addEventListener('beforeload', function(e) { if (e.target === check) { = true; } else if (!e.target.hasAttribute('nomodule') || !) { return; } e.preventDefault(); }, true); check.type = 'module'; check.src = '.'; document.head.appendChild(check); check.remove(); } }());

Heriau datrys problemau Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr

  • Cyhoeddwyd
Nick Lyons
Disgrifiad o’r llun,

Mae Dr Nick Lyons yn poeni fod rhai cleifion yn ofni gofyn am gymorth, oherwydd y sylw i broblemau Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr

Mae penawdau cyson ynglŷn â ffaeleddau'r Gwasanaeth Iechyd yng ngogledd Cymru yn tanseilio hyder cleifion, yn niweidio ysbryd staff ac yn gwaethygu problemau recriwtio sydd eisoes yn ddifrifol, yn ôl un o benaethiaid bwrdd iechyd yr ardal.

Yn ôl cyfarwyddwr meddygol Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr, Dr Nick Lyons, mae 'na risg fod rhai cleifion yn amharod i ofyn am gymorth oherwydd yr holl sylw i'r problemau.

Yn y cyfamser mae staff sy'n cyflawni "gwaith arbennig" meddai, yn teimlo'n nad ydyn nhw'n cael eu gwerthfawrogi, a bod enw drwg y bwrdd yn gallu bod yn rhwystr wrth recriwtio.

Ond mae Dr Lyons yn mynnu bod mwyafrif helaeth cleifion y gogledd yn cael gofal da ac effeithiol, er ei fod yn cydnabod y gallai fod yn flynyddoedd cyn y caiff rhai o'r problemau mawr eu datrys.

'Mwy na'i siâr o drafferthion'

Ers ei sefydlu yn 2009 mae bwrdd iechyd y gogledd wedi wynebu mwy na'i siâr o drafferthion.

Yn 2015 y bwrdd oedd y sefydliad iechyd cyntaf, a'r unig un hyd hynny, i gael ei osod yn gyfan gwbl mewn "mesurau arbennig" sef y lefel uchaf o oruchwyliaeth gan Lywodraeth Cymru.

Fe barodd hynny am bum mlynedd.

Ond hyd yn oed wedyn daeth ffaeleddau mawr i'r amlwg.

Yn ystod haf eleni fe gafodd un o brif ysbytai'r gogledd, Ysbyty Glan Clwyd ym Modelwyddan, ei osod dan oruchwyliaeth fanwl gan Lywodraeth Cymru oherwydd ffaeleddau difrifol, yn benodol yn y gwasanaethau fasgiwlar a'r uned frys.

Fe fydd yr ysbyty yn aros o dan yr hyn sy'n cael ei alw'n "ymyrraeth wedi'i dargedu" am beth amser eto gan fod Llywodraeth Cymru o'r farn fod "problemau difrifol yn parhau".

Ysbyty Glan ClwydFfynhonnell y llun, BBC Sport
Disgrifiad o’r llun,

Mae angen "gwelliant sylweddol" ar uned gofal brys Ysbyty Glan Clwyd yn ôl Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru

Yn y cyfamser mae'r bwrdd iechyd yn chwilio am ei bumed prif weithredwr parhaol mewn cyfnod o 13 o flynyddoedd.

Presentational grey line
Presentational grey line

Yn ôl Dr Lyons mae'r feirniadaeth a'r ansicrwydd yn cael effaith ar hyder cleifion ac ysbryd staff.

"Pan dwi'n siarad gyda'n cleifion weithiau maen nhw'n codi cwestiynau fel: 'Ydy hi'n ddiogel i mi gael fy nhrin yma">