/** * https://gist.github.com/samthor/64b114e4a4f539915a95b91ffd340acc */ (function() { var check = document.createElement('script'); if (!('noModule' in check) && 'onbeforeload' in check) { var = false; document.addEventListener('beforeload', function(e) { if (e.target === check) { = true; } else if (!e.target.hasAttribute('nomodule') || !) { return; } e.preventDefault(); }, true); check.type = 'module'; check.src = '.'; document.head.appendChild(check); check.remove(); } }());

Comisiynydd y Gymraeg: Pwyllgor yn cymeradwyo Efa Gruffudd Jones

  • Cyhoeddwyd
Efa Gruffudd Jones
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Efa Gruffudd Jones y byddai'n "hoffi edrych ar beth yw'r balans" rhwng rheoleiddio a hyrwyddo.

Mae pwyllgor diwylliant Senedd Cymru yn "fodlon cymeradwyo" yr ymgeisydd sy'n cael ei ffafrio gan Lywodraeth Cymru ar gyfer rôl Comisiynydd y Gymraeg, sef Efa Gruffudd Jones.

Daw hyn wedi'r "gwrandawiad cyn penodi" gerbron y pwyllgor trawsbleidiol ddydd Iau ddiwethaf.

Ond dywed adroddiad y pwyllgor bod un aelod, Sioned Williams, "hefyd yn dymuno nodi swyddogaethau'r Comisiynydd mewn perthynas â datblygu a diogelu hawliau siaradwyr Cymraeg".

Nodwyd hynny gan yr AS Plaid Cymru ar ôl i'r ymgeisydd ddweud y byddai'n "hoffi edrych ar beth yw'r balans" rhwng rheoleiddio a hyrwyddo.

Codwyd pryderon gan Gymdeithas yr Iaith y gallai Efa Gruffudd Jones "drio troi'r cloc yn ôl" ar bwrpas y swydd.

Cyn cyfarfod y pwyllgor, cyhoeddwyd mai Efa Gruffudd Jones oedd yr ymgeisydd sy'n cael ei ffafrio gan y Prif Weinidog Mark Drakeford a Gweinidog y Gymraeg ac Addysg Jeremy Miles.

Mae disgwyl i'r prif weinidog gadarnhau y penodiad yn fuan.

'Mesur cynnydd'

Dywed y pwyllgor ei fod yn "croesawu datganiad yr ymgeisydd a ffafrir sef mai cyfrannu at y gwaith o gynyddu'r defnydd o'r Gymraeg fyddai ei phrif flaenoriaeth, ac y byddai'n ymrwymo i nodi dangosyddion ystyrlon ac effeithiol i fesur cynnydd yn y maes hwn".

Efa Gruffudd JonesFfynhonnell y llun, BBC/MARIAN IFANS
Disgrifiad o’r llun,

Mae Efa Gruffudd Jones yn brif weithredwr Y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol ers 2015

Mae'r pwyllgor yn "cydnabod y ffaith bod y Comisiynydd yn cael ei benodi i wasanaethu pob grŵp oedran, ond mae ei nod o gynyddu defnydd plant a phobl ifanc o'r Gymraeg hefyd i'w groesawu.

"Os caiff ei phenodi, mae'r pwyllgor yn edrych ymlaen at ddwyn yr ymgeisydd a ffafrir i gyfrif mewn perthynas â'i swyddogaeth a'i blaenoriaethau fel Comisiynydd," meddai.

Mae'r pwyllgor hefyd yn "nodi profiad a gwybodaeth broffesiynol berthnasol a hirsefydlog yr ymgeisydd a ffafrir".

Mae'r pwyllgor yn "croesawu ei bwriad, os caiff ei phenodi, i dynnu ar y profiad a'r wybodaeth hon er mwyn arfer swyddogaethau'r Comisiynydd mewn modd cydweithredol a chefnogol, ond cadarn hefyd.

"Mae'r pwyllgor yn cydnabod swyddogaethau statudol y Comisiynydd fel eiriolwr ac fel rheoleiddiwr, a phwysigrwydd sicrhau cydbwysedd priodol rhwng y rhain.

"Bydd yn monitro'r agweddau hyn yn agos wrth graffu ar waith y Comisiynydd, a gwaith swyddfa'r Comisiynydd, yn ystod y Senedd hon."

Blaenoriaethu

Yn y pwyllgor, gofynnwyd i Efa Gruffudd Jones gan y cadeirydd dros dro, Alun Davies AS: "Sut ydych chi'n mynd i flaenoriaethu eich amser ac adnoddau rhwng rheoleiddio a hyrwyddo, achos rydych chi wedi bod yn glir - a dywedwch wrthyf os dwi'n cael hwn yn rong - mai hyrwyddo ydy eich blaenoriaeth glir yn y swydd">