/** * https://gist.github.com/samthor/64b114e4a4f539915a95b91ffd340acc */ (function() { var check = document.createElement('script'); if (!('noModule' in check) && 'onbeforeload' in check) { var = false; document.addEventListener('beforeload', function(e) { if (e.target === check) { = true; } else if (!e.target.hasAttribute('nomodule') || !) { return; } e.preventDefault(); }, true); check.type = 'module'; check.src = '.'; document.head.appendChild(check); check.remove(); } }());

Costau byw ac iechyd: Cymaint o effaith â Covid?

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Mae un fam sy'n defnyddio banc bwyd yng Nghaernarfon yn dweud fod yr argyfwng costau byw yn effeithio ar ei hiechyd.

Mae arweinwyr iechyd yn dweud bod yr argyfwng costau byw yn cael effaith ar iechyd y genedl yn barod, ac mae pryder y bydd yn gwaethygu'r anghydraddodebau cymdeithasol yn sgil Covid-19.

Mae galw am weithredu ar frys i daclo'r sefyllfa, gyda Choleg Brenhinol y Ffisegwyr (R) yn dweud bod angen cynllun traws-lywodraethol i leihau tlodi ac anghydraddoldebau ymysg oedolion a phlant.

Yn ôl Llywodraeth Cymru, maen nhw'n gwario dros £1.6bn ar daclo'r cynnydd mewn costau.

Maen nhw hefyd yn edrych ar gynllun hirdymor i drechu tlodi.