Adwaith yn gobeithio 'ysbrydoli cenhedlaeth newydd' o ferched
- Cyhoeddwyd

Adwaith yw Heledd Owen, Holly Singer a Gwenllian Anthony
Mae'r grŵp Adwaith yn cloi Maes B am y tro cyntaf erioed eleni ac nid yn unig mae cyrraedd un o brif lwyfannau cerddoriaeth Cymraeg yn nodi carreg filltir bersonol i'r tair o Gaerfyrddin, ond mae hi hefyd yn ffordd iddyn nhw ysbrydoli ton newydd o ferched yn y sin yng Nghymru.
Saith mlynedd yn ôl yn 2015 fe ddychwelodd y gitarydd Holly Singer, y basydd Gwenllian Anthony a'r drymiwr Heledd Owen o Eisteddfod Meifod gyda'r un freuddwyd ar eu meddyliau - creu Adwaith.
"Wnaethon ni ddechrau'r band ar ôl dod yn ôl o Maes B - felly mae'n teimlo fel full circle moment," meddai Gwenllian Anthony.
"Nes i fyth gweld ni yn headlinio Maes B. Fi'n teimlo fel weithiau… yn amlwg ni yn y sin Cymraeg ond ei fod e yn one foot in, one foot out."
Adwaith ydi'r ail grŵp benywaidd yn unig i orffen nos Sadwrn fawr Maes B.
Daeth Elin Fflur â'r ŵyl i ben yn 2017 ac eleni mae pentwr o berfformiadau gan ferched yng ngŵyl yr ieuenctid gan gynnwys Hana Lili, Chroma, Eden, Tara Bandito, Eadyth a HMS Morris.
Yn ôl Gwenllian Anthony mae'n dangos pa mor bell mae cerddoriaeth Gymraeg wedi dod dros y blynyddoedd diwethaf, a gobaith Adwaith ydi ei wthio ymhellach.
"Pan 'ethon ni i Eisteddfod Meifod doedd dim lot o ferched rownd rili. Fi'n cofio gweld HMS Morris a Gwenno a ro'n i yn meddwl 'maen nhw yn gallu gwneud e, felly pam gallen ni ddim">