'Gormod o rwystrau o hyd i addysg Gymraeg' - Jeremy Miles
- Cyhoeddwyd

Mae gormod o rwystrau o hyd i addysg cyfrwng Cymraeg, yn ôl Gweinidog y Gymraeg.
Dywedodd Jeremy Miles ein bod ni "wedi mynd mor bell ag y gallwn o fewn fframwaith presennol y cynllun strategol Cymraeg mewn addysg".
Roedd yn siarad yn y Senedd am gynlluniau strategol newydd Cymraeg mewn addysg, sef cynlluniau yr awdurdodau lleol i ehangu addysg cyfrwng Cymraeg dros y degawd nesaf.
Dywedodd Heledd Fychan o Blaid Cymru fod angen "herio" rhai o'r cynlluniau sydd, meddai, ddim yn ddigon "uchelgeisiol".
Yn ôl cerrig milltir strategaeth 'Cymraeg 2050: Miliwn o siaradwyr', mae Llywodraeth Cymru am i 26% o ddysgwyr blwyddyn 1 gael eu haddysg drwy gyfrwng y Gymraeg erbyn 2026, gyda hynny'n codi i 30% erbyn 2031.

Mae'r llywodraeth "wedi mynd mor bell ag y gallwn o fewn fframwaith presennol y cynllun strategol Cymraeg mewn addysg" medd Jeremy Miles
Dywedodd Mr Miles bod "rhai awdurdodau wedi mynd ymhellach hyd yn oed ac wedi gosod targedau sy'n rhagori ar ein disgwyliadau".
Ymhlith yr ymrwymiadau yn y cynlluniau, mae sefydlu 23 ysgol gynradd Cymraeg newydd ac ehangu 25 ysgol gynradd Gymraeg dros y 10 mlynedd nesaf, gyda chronfa o £76 miliwn "sydd wedi'i wario neu ei ddyrannu ar gyfer ysgolion newydd ac ehangu ysgolion".
Bydd y 23 o ysgolion cyfrwng Cymraeg newydd yn cael eu dosbarthu ymhlith 15 o'r cynghorau lleol.
Dywedodd Mr Miles y bydd y cynlluniau'n "cael eu cyhoeddi maes o law, wedi iddyn nhw gael eu cymeradwyo'n swyddogol".
'Rhaid herio'
Ar ran Plaid Cymru, mynegodd Heledd Fychan bryder am gynghorau "sydd, flwyddyn ar ôl blwyddyn, ddim yn cyrraedd y targedau hynny".
Dywedodd ei bod wedi darllen rhai o'r cynlluniau drafft ar wefannau cynghorau sir a'i bod o'r farn "nad ydy pob un yn uchelgeisiol, a dwi'n meddwl bod yn rhaid herio hynny".
Ychwanegodd: "Rydych chi wedi dweud bod cynlluniau strategol Cymraeg mewn addysg yn mynd mor bell ag sy'n bosib ar y funud, ond onid oes yna ffyrdd y gallem ni gryfhau hynny drwy ddeddfu, drwy fod yn cosbi'r awdurdodau hynny lle mai geiriau gwag ydy eu hymrwymiadau i'r Gymraeg, nid ymrwymiad gwirioneddol i sicrhau mynediad cydradd">