Gall miliynau elwa yn sgil ymchwil i ganser y fron
- Cyhoeddwyd

Dyw'r driniaeth yma ddim yn cynnig iachâd - ond mae'n cynnig amser ychwanegol pwysig iawn i gleifion i dreulio gyda'u teuluoedd a'u ffrindiau
Fe allai miliynau o gleifion elwa wedi "canlyniadau rhyfeddol" ymchwil i driniaeth newydd ar gyfer menywod sydd â chanser y fron wedi lledaenu.
Fe gafodd yr astudiaeth ei harwain yng Nghymru, ac edrychodd yn benodol ar roi cyffur newydd yn ogystal â thriniaeth hormon arferol.
Dangosodd yr ymchwil y gall menywod sydd â chamgymeriad genetig cyffredin yn eu canser ddisgwyl byw bron ddwywaith yn hirach wedi cael y cyffur o'i gymharu â'r rhai gafodd y driniaeth arferol yn unig.
Mae'r canlyniadau wedi cael eu cyflwyno yng nghynhadledd ganser fwyaf y byd yn Chicago ac wedi'u cyhoeddi yng nghyfnodolyn Lancet Oncology.

"Mae'r driniaeth yn cynnig amser ychwanegol i gleifion," medd yr Athro Rob Jones
Dywedodd cyd-arweinydd yr ymchwil, yr Athro Rob Jones o Ganolfan Ganser Felindre a Phrifysgol Caerdydd: "Does 'na'r un treial o'r blaen wedi bod mor arwyddocaol - mae'n rhyfeddol.
"Pan fydd claf yn cael diagnosis o ganser metastatig [canser sydd wedi lledu]... y cwestiwn pwysicaf iddyn nhw yw: 'Pa mor hir sy' gen i ar ôl? Ydw i'n mynd i weld fy wyrion a'm hwyresau'n tyfu i fyny">