'Nath o ddim croesi fy meddwl fod rhywbeth mor fawr o'i le'
- Cyhoeddwyd

Mae Nicky John yn wyneb adnabyddus ar y teledu ers blynyddoedd, yn gyflwynydd ar y rhaglen bêl-droed boblogaidd Sgorio ar S4C. Ond yn ddiweddar mae Nicky a'i gŵr, Gwion, wedi bod drwy gyfnod anodd ar ôl i'w merch Emi gael diagnosis o gancr Wilms ac yn derbyn gofal arbenigol.
Yma mae Nicky'n rhannu'r hanes o sut wnaeth ei merch blwydd oed gael diagnosis o gancr, a sut mae'r teulu'n ymdrin â'r sefyllfa.

Mae'n un o'r sefyllfaoedd 'na sy'n siŵr o fod ymhlith rhestr hunllefau unrhyw riant. Yn fy achos i, un o'r pethau sydd wedi chwarae ar fy meddwl fwyaf yn ystod y mis diwethaf yw 'sut na sylwais i fod rhywbeth o'i le ar fy mhlentyn">