/** * https://gist.github.com/samthor/64b114e4a4f539915a95b91ffd340acc */ (function() { var check = document.createElement('script'); if (!('noModule' in check) && 'onbeforeload' in check) { var = false; document.addEventListener('beforeload', function(e) { if (e.target === check) { = true; } else if (!e.target.hasAttribute('nomodule') || !) { return; } e.preventDefault(); }, true); check.type = 'module'; check.src = '.'; document.head.appendChild(check); check.remove(); } }());

Streic gyrwyr Arriva yn 'drychinebus' i deithwyr a busnesau

  • Cyhoeddwyd
Protest Unite
Disgrifiad o’r llun,

Aelodau Unite yn protestio ger safle Arriva ym Mangor fore Mawrth

Mae dyn 72 oed sydd yn dibynnu ar fysus wedi disgrifio streic gyrwyr Arriva yn y gogledd fel un "trychinebus".

Daw hyn wrth i Arriva ac undeb Unite ailgychwyn trafodaethau ddydd Mawrth er mwyn ceisio datrys yr anghydfod dros gyflog wnaeth arwain at y streic.

Mae Unite yn dweud bod gyrwyr yn ennill tâl uwch yng ngogledd-orllewin Lloegr nag yng ngogledd Cymru.

Yn ôl David Williams, 72, teithwyr sydd yn cael eu heffeithio gan y streic, nid y cwmni.

'Nid pawb sy'n berchen ar gar'

Dywedodd Mr Williams er ei fod yn cydymdeimlo â'r gyrwyr, mae'r streic yn golygu ei fod yn "sownd yn Llandudno, fel llawer o bobl eraill".

"Nid pawb sy'n berchen ar gar neu sy'n gallu fforddio talu am dacsis," meddai.

David Williams
Disgrifiad o’r llun,

Mae David Williams yn "sownd" gan nad oes bysiau'n gweithredu

Dywedodd Mr Williams ei fod wedi defnyddio'r bws trwy gydol ei fywyd, a'i fod bellach yn ei ddefnyddio sawl gwaith yr wythnos er mwyn ymweld â'i ffrindiau, siopa, a chael o le i le.

Roedd tad Mr Williams yn yrrwr bws, ac mae'n dweud ei fod methu deall pam nad ydy gyrwyr y gogledd yn cael eu talu gymaint â gyrwyr yng ngogledd-orllewin Lloegr.

Ond dywedodd mai teithwyr sy'n cael eu heffeithio gan y streic, nid Arriva.

Mae Mr Williams hefyd yn bryderus am yr effaith ar fusnesau cyn y Nadolig.

"Mae pobl yn dod i Landudno er mwyn gwneud eu siopa Nadolig… sut fyddwn nhw'n dod yma os nad oes ganddyn nhw drafnidiaeth eu hunain">