Ble ddylai cynlluniau ynni gwyrdd gael eu creu?
- Cyhoeddwyd
Hoffech chi fferm solar 52 erw ar eich stepen drws?
Fel rhan o gynllun Gohebydd Ifanc y BBC, mae Nel Richards yn ymchwilio i'r tensiynau sy'n codi wrth ddatblygu isadeiledd ynni gwyrdd yng Nghymru.
Mae Nel yn 20 oed ac o bentref Craig Cefn Parc yn Sir Abertawe,ond bellach yn astudio Newyddiaduraeth a Chymraeg ym Mhrifysgol Caerdydd.
Dychwelodd i Graig Cefn Parc i holi sut ymateb oedd i ddatblygiad posib yn yr ardal yn ddiweddar.


Gwrthodwyd y cynllun yng Nghraig Cefn Parc dros bryderon am effaith negyddol ar ecoleg
Yn haf 2019, cyhoeddwyd cynlluniau ar gyfer fferm solar ar 52 erw o dir amaethyddol braf yng Nghraig Cefn Parc, pum milltir i'r gogledd o Abertawe.
Ynghyd â'r i fyddai'n cynhyrchu 19.9 megawat o ynni, byddai offer ac isadeiledd ychwanegol yn cael eu codi, o gamerâu cudd i ffensys uchel a heolydd newydd drwy gaeau ffrwythlon.
Ymhen deufis, gwrthodwyd y cynllun gan Gyngor Abertawe dros bryderon am effaith negyddol ar ecoleg yr ardal.
Dwi'n byw yn lleol, ar lethr gyferbyn â'r tir dan sylw. Wrth i Lywodraeth Cymru anelu at greu cymunedau mwy gwyrdd, es i glywed gan bobl leol am y tensiynau gafodd eu hachosi gan y cynllun.
'Poeni am fywyd gwyllt y cwm'
Cwm glofaol oedd Craig Cefn Parc cyn i mi fyw yma, ond ardal werdd sy'n gartref i warchodfa natur o dan reolaeth yr RSPB yw hi erbyn hyn.
Pan gyflwynwyd y cynlluniau, roedd rhai yn pryderu am yr effaith ar fywyd gwyllt sydd wedi adfeddiannu'r cwm dros yr 50 mlynedd ddiwethaf.
Mae Dewi Lewis yn gwirfoddoli'n wythnosol yn y warchodfa natur sydd gerllaw ble fyddai'r fferm solar wedi bod.

Dywedodd Dewi Lewis y byddai'r datblygiad wedi cael effaith "sylweddol" ar fywyd gwyllt yr ardal
"Mae effaith y math yma o ddatblygiad ar fywyd gwyllt yn gallu bod yn sylweddol", meddai Mr Lewis.
"Rydyn ni'n meddwl am ddarn o dir eithaf sylweddol oherwydd fod ffermydd solar yn gorfod bod yn rhai eithaf mawr er mwyn eu gwneud nhw'n broffidiol.
"Felly mae'r effaith ar drychfilod a phryfetach i ddechrau, oherwydd bydd braidd dim gwlybaniaeth yn y pridd o dan y i solar."


Yn ôl Mari Arthur, ymgynghorydd amgylcheddol i gwmni Afallen, sy'n helpu busnesau i wneud penderfyniadau mwy cynaliadwy, mae datblygiadau gwyrdd yn hollbwysig i adfer y blaned os yw'r datblygiadau mewn lle addas.
"Mae'n rhaid gweithio gyda'r cymunedau a meddwl, 'mae'n rhaid i ni gael solar, neu wynt neu tidal neu beth bynnag yn ein hardal ni- mae'n rhaid i ni gefnogi hwn a gwneud yn siŵr ein bod ni'n dewis y lle iawn i roi e'," meddai.