Trysorau ac atgofion melys Gareth Edwards
- Cyhoeddwyd

Mae Gareth Edwards a'i wraig Maureen yn hel atgofion am yrfa disglair Gareth wrth ail-ddarganfod memorabilia a hen drysorau maen nhw wedi casglu dros y blynyddoedd.
I lawer, Gareth Edwards yw un o'r chwaraewyr gorau yn hanes rygbi. Bu'n sgwrsio gyda Shân Cothi ar Bore Cothi am rai o'r trysorau sy'n bwysig iddo.

"Mam a Dad oedd wedi dechrau casglu'r holl bethau, yn enwedig pan 'oeddwn i'n grwt ifanc. Roedden nhw'n meddwl y byd pan oeddwn i'n cael fy newis i chwarae i Gymru neu'r Llewod, a chael y cyfle i deithio gyda'r timoedd hyn," dywedodd Gareth.
"Roeddwn i wastad yn dod â phethau yn ôl o Dde Affrica, Seland Newydd a pha bynnag lefydd o'n i'n chware. Roedden nhw'n casglu nhw ac yn edrych ar ôl nhw gyda llawer o fwynhad."
Bocsys llawn trysorau
"Ychydig o flynyddoedd yn ôl goffes i ddod â'r bocsys lawr o dŷ Mam, ac wrth gwrs doeddwn i ddim yn sylwi faint ohonyn nhw oedd a beth oedd yn rhan fwyaf ohonyn nhw.
"Er bo' fi wedi bod yn casglu ychydig bach o bethau fy hunan. Dwi'n gwybod lle mae rhan fwyaf o'r pethau dwi wedi cadw oherwydd maen nhw fyny ar y wal neu ar ben y silff ben tân, lle dwi'n gallu gweld nhw.
"Ond pan ddechreues i fynd trwy'r bocsys o dŷ mam, doeddwn i methu credu faint o bethau roedd hi wedi casglu a beth oedd yna."
'Lagonda o Gastell-nedd i Waencaugurwen'
"Daeth y syniad am y rhaglen ((Trysorau Gareth Edwards ar S4C, 9:00 ar Hydref 6) yn rhannol gyda dathlu bod hi'n hanner can mlynedd ers taith y Llewod yn erbyn Seland Newydd yn 1971. Bryd hynny, pan ddychwelodd y garfan cafon ni Lagonda yr holl ffordd o Gastell-nedd i Waencaugurwen. Roedd pawb allan a'i baneri!
"Nathon ni ail greu'r llun yma, gafon ni Lagonda lliw gwahanol ac ishte o flaen stasiwn Castell-nedd. Roedd y tywydd yn hyfryd.

Gareth a Maureen yn ail-greu'r llun enwog ohonynt yn cyrraedd adref yng Nghwmgors, yn dilyn taith lwyddiannus y Llewod yn 1971.
'Trysor i'r meddwl'
Dywedodd Maureen: "Fy hoff lun yw tîm Cymru yn ymarfer gyda Clive Rowlands ar y traeth yn Aberafon ac mae cŵn a'r cwbl yn joio gyda nhw. Hwnna yw fy ffefryn i."
Atebodd Gareth: "Mae'n dangos y gwahaniaeth paratoi am gemau rhyngwladol heddiw i gymharu gyda sut roeddwn i yn paratoi hanner can mlynedd yn ôl."
"Roedd yn anodd iawn dewis a dethol y trysorau sy'n cael eu dangos ar y rhaglen, chi'mod mae'n fwy na thrysor i edrych arno, mae'n drysor i'r meddwl hefyd, llawn atgofion melys.
"Pan chi'n edrych nôl mae'n golygu gyment.
"Ma' llawer o gwestiynau yn codi yn eich pen fel, 'ble mae'r crys yma wedi dod">