/** * https://gist.github.com/samthor/64b114e4a4f539915a95b91ffd340acc */ (function() { var check = document.createElement('script'); if (!('noModule' in check) && 'onbeforeload' in check) { var = false; document.addEventListener('beforeload', function(e) { if (e.target === check) { = true; } else if (!e.target.hasAttribute('nomodule') || !) { return; } e.preventDefault(); }, true); check.type = 'module'; check.src = '.'; document.head.appendChild(check); check.remove(); } }());

Diffoddwyr tân Cymru'n mynnu gweithredu ar newid hinsawdd

  • Cyhoeddwyd
EviaFfynhonnell y llun, Reuters
Disgrifiad o’r llun,

Bu criwiau o Gymru'n cynorthwyo i ddiffodd tanau yn Evia, Gwlad Groeg

Mae gwasanaethau tân Cymru wedi galw am weithredu yn erbyn newid hinsawdd, gan rybuddio eu bod ar y rheng flaen wrth ddelio â'r effeithiau.

Yn ôl Undeb y Frigâd Dân mae'u haelodau wedi gweld cynnydd mewn achosion heriol o lifogydd a thanau gwyllt yn ystod y blynyddoedd diwethaf.

Rhybuddiodd un arbenigwr y gallai Cymru fod yn profi'r math o danau gwair dinistriol welwyd yng Ngwlad Groeg yn ddiweddar ymhen rhai degawdau.

Daw'r alwad union fis cyn i arweinwyr byd gwrdd yn Glasgow ar gyfer cynhadledd COP26 ar atal cynhesu byd-eang.

'Fel gwylio ffilm Hollywood'

Yn ddyn tân ers bron i 40 mlynedd, mae Craig Hope yn dweud nad yw'n cofio faint yn union o danau gwair y mae wedi'u diffodd.

Bydd yn cael ei alw i ddelio â "channoedd ar gannoedd" bob blwyddyn ar hyd a lled cymoedd y de.

Ond yn ddiweddar, mae'n dweud iddo sylwi eu bod nhw'n newid - yn llosgi'n hwyrach yn y flwyddyn, yn tyfu'n fwy o ran maint a dinistr.

craig hope
Disgrifiad o’r llun,

Mae Craig Hope yn arbenigwr ar ddiffodd tanau gwair

Yn y cyfamser, mae ei gydweithwyr yn gorfod achub pobl o achosion o lifogydd "anhygoel" a thirlithriadau.

Arwyddion newid hinsawdd o flaen eu llygaid, meddai - "mae fel gwylio ffilm Hollywood".

Fel arbenigwr ar danau gwair, fe deithiodd Mr Hope i Wlad Groeg ym mis Awst gyda thri o'i gydweithwyr o Wasanaeth Tân ac Achub De Cymru i helpu gyda'r tanau dinistriol yno.

Mae'n rhagweld y gallai Cymru ddioddef golygfeydd tebyg cyn hir oni bai bod 'na ymdrech i addasu i heriau tywydd cynhesach.

Mae'r gwledydd yn Ewrop sy'n profi problemau dybryd ar hyn o bryd yn rhai "oedd yn cael tanau fel y'n ni'n cael 30 mlynedd yn ôl," eglurodd.

"Ry'n ni mewn sefyllfa nawr lle mae'n rhaid i ni weithredu - y degawdau nesa' fydd yn penderfynu os allwn ni lwyddo."

Disgrifiad,

Tywydd eithafol yn mynd i ddigwydd "yn fwy ac yn fwy aml"

Mae'n broblem gymhleth sy'n golygu gweithio ar y cyd â ffermwyr, tirfeddianwyr, cwmnïau coedwigaeth, amgylcheddwyr a'r llywodraeth i reoli tirweddau fel eu bod nhw'n llai bregus i danau sy'n llosgi allan o reolaeth.

Cyfeiriodd at brosiect yn Rhondda Cynon Taf - o'r enw Healthy Hillsides, dolen allanol - fel esiampl dda o'r hyn ddylai fod yn digwydd ar draws y wlad.

"Y broblem sy' gyda ni yng Nghymru yw bod 'da ni lot o dywydd llwm," felly efallai nad yw tanau ar flaen meddwl pobl.

Ond pan mae'n wlyb "mae'r holl lystyfiant yn tyfu lan ac yn mynd yn fwy ac yna ry'n ni'n ca'l adegau o dywydd twym iawn, sych a gwyntog".

Cilfai
Disgrifiad o’r llun,

Mae nifer o danau dinistriol wedi bod yn ddiweddar ar fynydd Cilfai ger Abertawe

Mae'r gwasanaeth tân y mae e'n gweithio iddo bellach wedi "esblygu'n llwyr" sut y maen nhw'n delio â thanau gwair, gan gynnwys cyflwyno gwisg newydd sy'n fwy addas ar gyfer yr amodau.

Ond ydy e'n becso am y dyfodol? "Bendant," atebodd - oherwydd er ei bod hi'n beth prin iawn ar hyn o bryd i danau gwyllt y DU effeithio eiddo a bywydau pobl, fe allai hynny newid.

"Ro'n ni ym Mhortiwgal yn ddiweddar... [lle] collon nhw 77 o bobl mewn tân gwair, a dim ond fis diwethaf bu farw diffoddwr tân yn Sbaen. Felly mae hyn yn beth real iawn," meddai.

"Wrth i'n tanau ni dyfu'n fwy ac wrth i'r hinsawdd newid mae'n rhaid i ni baratoi a sicrhau ein bod ni'n ddiogel."

Jan Murphy
Disgrifiad o’r llun,

Daeth fflamau'n agos iawn at ardd Jan Murphy yn 2019

'Noson wirioneddol echrydus'

Mae mynydd Cilfai, uwchben Abertawe yn un ardal sy'n peri pryder, ar ôl dioddef nifer o danau dinistriol yn ddiweddar.

Yn 2019 bu'n rhaid tywys pobl o'u cartrefi islaw wrth i'r gwasanaeth tân geisio diffodd y fflamau.

Roedd hi'n noson "wirioneddol echrydus" yn ôl Jan Murphy, sy'n 72 oed.

"Y cyfan oedden ni'n gallu'i weld oedd y mwg a goleuni oren. Ro'n ni mas yn y stryd tan dri y bore, a phum injan dân yma tan y diwrnod wedyn."

Daeth y fflamau i ymyl ei gardd, ac mae bellach wedi torri rhes o goed oedd yn amgylchynu ei chartref i geisio atal problemau pellach yn y dyfodol.

stephen more
Disgrifiad o’r llun,

Mae Stephen more yn cydymdeimlo gyda'r diffoddwyr

Dweud ei fod e'n cydymdeimlo â'r diffoddwyr tân wnaeth ei chymydog Stephen more.

"Roedd y bryn i gyd ar dân - ble y'ch chi fod i ddechrau mewn sefyllfa fel 'na">