Y dyn o Frasil safodd ei brawf Prydeindod yn Gymraeg
- Cyhoeddwyd
Yn ôl Rodolfo roedd eisiau i'w broses o gael dinasyddiaeth fod "yn fwy Cymreig"
Mae gŵr o Frasil wedi ei syfrdanu ar ôl i bobl gyfrannu cannoedd o bunnoedd i dalu ei ffioedd dinasyddiaeth Prydain am iddo fod y person cyntaf i sefyll ei brawf yn Gymraeg.
Fel rhan o'r broses dinasyddiaeth, mae'n rhaid pasio prawf am hanes a gwerthoedd Prydain. Gan mai dim ond yng Nghymru roedd Dr Rodolfo Piskorski wedi byw, fe ofynnodd i'w wneud yn y Gymraeg - er nad ydy o'n rhugl eto.
Ac yntau methu fforddio'r £1505 i dalu am y broses gyfan o ddod yn Brydeiniwr fe roddodd apêl ar y we ac o fewn dyddiau roedd bron â chyrraedd ei darged.
Cartrefu yng Nghymru
Fe symudodd Rodolfo i Gaerdydd i astudio doethuriaeth yn 2013 gan ddechrau dysgu Cymraeg ddwy flynedd yn ddiweddarach.
Er bod ganddo statws sefydlog i aros ym Mhrydain, fe benderfynodd geisio am ddinasyddiaeth Prydain oherwydd ansicrwydd Brexit.
Gan mai dim ond yng Nghymru roedd o wedi byw, roedd y gŵr 34 oed eisiau gwneud y broses yn fwy ystyrlon a chanfod bod posib gwneud y prawf yn Gymraeg.

"Mae'r prawf yn un gwirion, fel cwis tafarn, a tydi o ddim yn dy integreiddio di felly nes i feddwl 'sut alla i wneud y broses yn fwy Cymreig">