Cynllun dadleuol yn ateb i broblem digartrefedd Cymru?
- Cyhoeddwyd

Mae Christina wedi bod yn byw ar strydoedd Caerdydd ers 1994
Fe fyddai cynllun dadleuol sy'n cynnig cartrefi parhaol i bobl ddigartref yn datrys y mater yng Nghymru, yn ôl arbenigwr ar ddigartrefedd o'r Ffindir.
Daw'r sylwadau wrth i nifer y bobl sy'n cysgu ar y stryd yng Nghymru gynyddu.
Does gan Lywodraeth Cymru ddim "gweledigaeth na ffocws i leihau nifer y bobl sy'n cysgu ar y stryd yng Nghymru", yn ôl Juha Kaakinan.
Mae gweinidog tai Llywodraeth Cymru yn cyfaddef bod angen "ad-drefnu'r system" er mwyn dod â digartrefedd i ben.
Wrth i nifer y pebyll ar strydoedd Caerdydd gynyddu, bu rhaglen BBC Wales Investigates yn siarad gyda Del Clarke, sy'n cysgu ar strydoedd y brifddinas.
Tan yn ddiweddar, roedd Mr Clarke, sy'n 40 oed, yn gweithio ac yn rhannu cartref gyda'i bartner a'i fab.
"Fe wnaeth fy mherthynas i dorri lawr rhyw flwyddyn a hanner yn ôl, roeddwn i'n yfed yn drwm, fe ddifethais i bopeth, fe gollais i'n swydd, fy nghartref ac mae gen i fab bach dwi ddim wedi'i weld ers sbel."

Roedd Del Clarke yn gweithio ac yn rhannu cartref gyda'i bartner a'i fab tan yn ddiweddar
Am gyfnod o bum mis, bu'r BBC yn siarad gyda phobl fel Mr Clarke wrth iddyn nhw geisio dod o hyd i gartrefi parhaol.
Mae ffigyrau'n dangos bod o leiaf 100 o bobl yn cysgu ar strydoedd Caerdydd, a bod 90 o bobl ddigartref wedi marw yng Nghymru rhwng 2013-17.
Er bod 'na gefnogaeth ar gael i bobl sy'n cysgu ar y stryd, gyda llety ychwanegol ar gael yn y gaeaf, dod o hyd i gartrefi parhaol ydy'r frwydr i nifer o bobl ddigartref.
Yn ôl elusennau, maen nhw'n gweld patrwm o bobl sy'n symud yn ôl ac ymlaen o lety dros dro a 'nôl i'r strydoedd.

Mae Juha Kaakinan yn arbenigwr ar ddigartrefedd
Un sy'n dweud bod 'na ateb i'r broblem ydy Juha Kaakinan o'r Ffindir.
Mae'n gyfrifol am Housing First, cynllun tai sy'n cynnig cartrefi parhaol i bobl ddigartref.
Does 'na ddim amodau personol, fel gorfod rhoi'r gorau i alcohol neu gyffuriau, ond mae 'na gymorth dwys diderfyn ar gael.
Mae'r cynllun wedi bod yn un dadleuol, ond mae gwlâu dros dro Helsinki wedi gostwng o 600 i 52, gyda'r nifer sy'n cysgu ar y stryd mwy neu lai yn diflannu.
'Rhwystredig'
Mae 'na sawl peilot tebyg i Housing First yn cael eu rhedeg yng Nghymru, ond dyw Mr Kaakinan ddim yn deall pam bod y llywodraeth yn oedi cyn cynnig y gwasanaeth i bawb sydd ei angen.
"Mae'n rhwystredig gan fod tystiolaeth yn dangos mai cynnig cartrefi parhaol yw'r ffordd ymlaen," meddai.
"Ges i sgwrs gyda rhywun o Lywodraeth Cymru tra o'n i yma 'chydig flynyddoedd yn ôl - ac fe ddywedon nhw eu bod nhw yn derbyn y syniad o Housing First.
"Felly pam eu bod nhw dal heb fabwysiadu'r cynllun fel polisi cenedlaethol">