/** * https://gist.github.com/samthor/64b114e4a4f539915a95b91ffd340acc */ (function() { var check = document.createElement('script'); if (!('noModule' in check) && 'onbeforeload' in check) { var = false; document.addEventListener('beforeload', function(e) { if (e.target === check) { = true; } else if (!e.target.hasAttribute('nomodule') || !) { return; } e.preventDefault(); }, true); check.type = 'module'; check.src = '.'; document.head.appendChild(check); check.remove(); } }());

Wylfa: 'Oedi yn fwy tebyg na diddymu'r cynllun'

  • Cyhoeddwyd
Wylfa NewyddFfynhonnell y llun, Horizon Nuclear
Disgrifiad o’r llun,

Bydd y gwaith ar Wylfa Newydd yn dechrau yn 2020 os bydd yn cynllyn yn parhau

Mae'r cwmni sydd y tu ôl i Wylfa Newydd yn fwy tebygol o oedi o ran y cynlluniau adeiladu yn hytrach na diddymu'r syniad yn gyfan gwbl, yn ôl un ymgynghorydd economaidd.

Mae disgwyl i Hitachi gyhoeddi'r wythnos hon a fyddan nhw'n cefnu ar y gwaith o adeiladu'r atomfa £20bn ar Ynys Môn.

Mae cwestiynau eisoes wedi codi ynglŷn â sgil effeithiau'r penderfyniad ar economi gogledd Cymru.

Yn ôl Dr Edward Jones, sy'n dysgu Economeg ym Mhrifysgol Bangor, mae'n amau'n gryf os bydd Hitachi yn cerdded i ffwrdd ar ôl buddsoddi £2bn yn barod.

'Effaith ar hyd y gogledd'

Mae cwmni Horizon, sy'n gangen o gwmni Hitachi yn y DU wedi bod yn buddsoddi'r arian mewn prentisiaethau a chanolfannau hyfforddi yng ngogledd Cymru, gan gynnwys Grŵp Coleg Llandrillo Menai a Phrifysgol Bangor.

Dywedodd Robat Idris o'r grŵp gwrth-niwclear (PAWB) fod y cynlluniau ar gyfer Bargen Dwf Gogledd Cymru wedi eu selio ar y ffaith y byddai cynlluniau Wylfa yn mynd yn eu blaen.

Wylfa Nuclear Power Station at Cemaes Bay, Anglesey, North Wales.Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Fe gafodd gorsaf niwclear Wylfa ei digomisiynu yn 2015

Ychwanegodd Dr Jones fod y buddsoddiad posib o £20bn yn Wylfa 20 gwaith yn fwy na maint economi Ynys Môn, sydd â gwerth economaidd o tua £1bn, a hefyd yn uwch na holl economi gogledd Cymru sydd werth cyfystyr â £13.6bn.

"Mae'n mynd i gael effaith ar hyd gogledd Cymru oherwydd ei faint. O bersbectif economaidd, roedd wastad am gael effaith," meddai.

Mae Dr Jones yn credu y byddai Hitachi yn fwy tebygol o "bwyso'r botwm oedi" yn hytrach na cherdded i ffwrdd o'r prosiect yn gyfan gwbl yn dilyn y buddsoddiad blaenorol.

Os yw hynny'n digwydd, meddai Dr Jones, y cwestiwn wedyn fydd pa mor hir fydd yr oedi hwnnw.

Cyrsiau'n parhau

Ychwanegodd: "Beth sydd rhaid i'r llywodraeth wneud yw gofyn yn sydyn iawn, beth mae Hitachi yn ei olygu o ran y gair oedi? Ydy o'n golygu chwe mis? Chwe blynedd?

"Beth sydd ei angen i ddechrau eto">