Ailgylchu'r Nadolig: Y ciw hir i gael gwared â gwastraff yr ŵyl
- Cyhoeddwyd
Wrth i'r rhan fwyaf o bobl fwynhau hoe dros y gyfnod y Nadolig a'r flwyddyn newydd mae canolfannau ailgylchu Cymru yn wynebu eu cyfnod prysuraf yn y flwyddyn wrth geisio ymdopi gyda'r pethau rydyn ni yn eu taflu o'n tai er mwyn gwneud lle i'r newydd.

Beic wedi ei daflu cyn y Nadolig i sgip plastig caled canolfan Caergylchu ger Caernarfon
Aeth Cymru Fyw i ganolfan Caergylchu ger Caernarfon lle mae nifer y bobl sy'n mynd yno gyda cheir llawn gwastraff yn dyblu yn y dyddiau cyn y Nadolig ac i fewn i ddechrau Ionawr.

Rhan o waith Neil Hallybone ydy cyfeirio pobl at y sgip cywir, ac mae'n gwneud ei orau i helpu - "mae'n gwneud i'r diwrnod fynd yn gynt"
Mae dros 500 o geir y dydd yn dod i'r safle dros y cyfnod prysuraf i gael gwared â bocsys, papur lapio, polysteirin a phlastig, addurniadau a hen degannau.
Tua 250 yw'r ffigwr fel arfer.

Mae'r ciw hir i'r safle ailgylchu yn olygfa gyfarwydd wedi'r Nadolig ac am wythnosau cyntaf Ionawr
Cyn y Nadolig, pobl yn clirio eu tai ar gyfer yr ŵyl sy'n mynd yno, gyda llawer yn dod â thegannau plant yno i wneud lle i rai newydd gan Siôn Corn.

Dim defnydd i'r castell pinc yma ddim mwy
Yn helpu pobl i roi pethau yn y lle cywir mae Neil Hallybone o Sir Fôn, sy'n gweithio yma, ym mhob tywydd, ers 10 mlynedd.
Mae Neil yn cofio pobl oedd yn gallu "byw ar y pethau roedd pobl yn eu lluchio i'r sgips" ers talwm, meddai.
"Ond mae byd heddiw yn hollol wahanol: does gan ieuenctid heddiw ddim 'mynadd disgwyl i rywbeth gael ei drin, maen nhw'n ei luchio fo a maen nhw'n cael un arall. Byd felly ydi hi.

"Mae'n gwneud sens i fusnes i bobl luchio pethau yn dydi">