Merched Mawreddog: Elaine Morgan
- Cyhoeddwyd
Wrth i bobl Cymru gael eu gwahodd i bleidleisio am y ferch Gymreig go iawn gyntaf i gael ei hanfarwoli fel cerflun yn yr awyr agored fel rhan o brosiect Merched Mawreddog, Cerys Matthews sy'n edrych ar gyfraniad y dramodydd a'r damcaniaethwr, Elaine Morgan.
Mae modd pleidleisio dros bwy rydych chi'n credu yw'r fenyw ddylai gael ei hanfarwoli gyda cherflun cyhoeddus, a darganfod mwy amdanynt, ar wefan bbc.co.uk/merchedmawreddog.
Merched Mawreddog: Elaine Morgan
Elaine Morgan - Awdur teledu arloesol, eicon ffeministaidd, damcaniaethwr esblygiadol
Ganwyd: Trehopcyn, 1920
Marwolaeth: Aberpennar, 2013
Dyfyniad allweddol: "Roeddwn i'n meddwl eu bod yn rhoi gogwydd gwrywaidd gormodol ar esblygiad. Roedden nhw'n ei gymryd yn ganiataol bod esblygiad yn cynnwys gwneud pethau'n well i'r heliwr gwrywaidd cryf... a meddyliais, beth amdani hi? A beth am y plant? Roeddwn am ysgrifennu llyfr o'u safbwynt nhw. Beth am esblygiad menywod">