Helpu'r heddlu i fathu termau: Eich cynigion chi
- Cyhoeddwyd

Pan mae'n dod at sgrifennu a siarad Cymraeg mae 'na wastad heddlu iaith o gwmpas yn barod i gywiro a beirniadu ond o bryd i'w gilydd mae'r heddlu go iawn angen help gyda iaith.
Mae termau Cymraeg fel 'cadw yn y ddalfa' (detain in custody), 'ar fechnïaeth (on bail), 'cyrch' (raid) a 'theledu cylch cyfyng' (CCTV) wedi ennill eu plwy ym myd cyfraith a threfn erbyn hyn.
Ond gyda natur eu gwaith yn newid mae'n rhaid i'r heddlu fathu termau newydd am y troseddau sy'n cael eu cyflawni a'r dechnoleg maen nhw'n ei defnyddio i ddal y troseddwyr.
Mae'r angen di-baid yma am dermau Cymraeg newydd yn cadw uned gyfieithu Heddlu'r Gogledd yn brysur.
Cysylltodd Llifon Jones o'r uned â rhaglen Aled Hughes ar BBC Radio Cymru i rannu rhai o'r termau newydd maen nhw wedi eu bathu'n ddiweddar - ac i ofyn am help gydag un term yn benodol, sef 'county lines'.
Tacteg ydy hon sy'n cael ei defnyddio gan ddelwyr cyffuriau i fanteisio ar bobl eraill, plant yn aml, i werthu cyffuriau mewn ardal tu allan i'r ardal mae'r delwyr eu hunain yn byw ynddi, gan leihau'r tebygolrwydd o gael eu dal.
Maen nhw'n defnyddio llinellau ffôn symudol arbennig i gysylltu â nhw wrth eu hanfon ar draws yr ardal neu'r sir i werthu.
Wedi'r apêl ar raglen Aled Hughes cafwyd sawl cynnig gan wrandawyr Radio Cymru: "troseddu trawsffiniol", "llinellau llipryn", "llibart sir", "rhanbarth rheibio", "ffiniau bro", "cyffurffiniau", "ffiniau ffals".

Mae delwyr cyffuriau yn cysylltu gyda gwerthwyr o bell drwy ddefnyddio ffonau
Ond diolch hefyd i ddarllenwyr Cymru Fyw a ddaeth i'r adwy gyda'u cynigion nhw ar ôl inni ofyn am help.
"Un anodd!" meddai Melanie Davies cyn cynnig pedwar term: "drwgweithredu o'r ymylon"; "troseddu llechwraidd"; "terfynau troseddu"; a "cudd-ddelwyr sy'n camfanteisio".
"Llinellau lôn" oedd cynnig John Owen tra chynigiodd Meinir Pritchard "ffôn dros ffin".
Daeth "llinell cyffur" gan Mari Jones a "gweision gwasgar" gan Gwenda Jones - "Hynny yw bod gweision y rhai sy'n delio wedi eu gwasgaru">