Trydaneiddio'r rheilffordd i Abertawe 'ddim yn synhwyrol'
- Cyhoeddwyd

Bydd trenau newydd diesel-drydanol ar y rheilffordd erbyn yr hydref eleni
Mae Ysgrifennydd Trafnidiaeth y DU wedi amddiffyn y penderfyniad i beidio â thrydaneiddio'r lein reilffordd rhwng Caerdydd ac Abertawe.
Dywedodd Chris Grayling wrth Aelodau Seneddol nad oedd hi'n "synhwyrol" gwario miliynau o bunnau ar y prosiect.
Cafodd ei herio yn Nhŷ'r Cyffredin gan Aelod Seneddol Plaid Cymru, Jonathan Edwards, wedi iddi ddod i'r amlwg fod y prif weinidog wedi penderfynu canslo'r cynllun.
Gofynnodd Mr Edwards: "Ai'r realiti yw nad yw llywodraeth Prydain yn teimlo fod gorllewin fy ngwlad yn deilwng o fuddsoddiad">