/** * https://gist.github.com/samthor/64b114e4a4f539915a95b91ffd340acc */ (function() { var check = document.createElement('script'); if (!('noModule' in check) && 'onbeforeload' in check) { var = false; document.addEventListener('beforeload', function(e) { if (e.target === check) { = true; } else if (!e.target.hasAttribute('nomodule') || !) { return; } e.preventDefault(); }, true); check.type = 'module'; check.src = '.'; document.head.appendChild(check); check.remove(); } }());

Horizon yn oedi cyn cyflwyno cais ar gyfer Wylfa Newydd

  • Cyhoeddwyd
Wylfa NewyddFfynhonnell y llun, Horizon
Disgrifiad o’r llun,

Dyluniad arlunydd o safle arfaethedig yr orsaf newydd ar Ynys Môn

Mae'r cwmni sy'n gyfrifol am ddatblygu atomfa Wylfa Newydd ar Ynys Môn wedi cadarnhau eu bod angen mwy o amser cyn cyflwyno eu cais cynllunio.

Yn ôl cwmni Horizon maen nhw angen "ychydig mwy o amser" oherwydd materion yn ymwneud â chynefin adar yng ngwarchodfa natur Cemlyn.

Mewn datganiad dywedodd y cwmni: "Ein bwriad gydol yr amser oedd cael Gorchymyn Caniatâd Datblygu a fyddai yn cwrdd â'n gofynion ni a gofynion ein prif randdeiliaid.

"Cyn ein bod yn cyflwyno ein Gorchymyn Caniatâd Datblygu yn derfynol bwriadwn gymryd mwy o amser er mwyn gweld sut mae delio â chynefinoedd adar sydd wedi'u gwarchod ger safle Wylfa Newydd.

"Ry'n yn hyderus y byddwn yn gallu datrys y mater a gwneud cais cryf am Orchymyn Caniatâd."

Yn ystod misoedd Medi a Hydref y llynedd cafodd 15 arddangosfa gyhoeddus eu cynnal ar draws Ynys Môn, Gwynedd a Chonwy er mwyn casglu barn pobl leol ar y cynlluniau.