Addysg uwch: Pryder am effaith prisiau gwahanol i gyrsiau
- Cyhoeddwyd

Mae is-ganghellor un o brifysgolion Cymru wedi rhybuddio fod risg y gallai "hierarchaeth" gael ei greu o fewn addysg uwch os yw rhai cyrsiau'n costio mwy nag eraill.
Roedd yr Athro Cara Aitchison o Brifysgol Met Caerdydd yn siarad wedi i'r Prif Weinidog Theresa May gyhoeddi adolygiad o addysg ôl-18 yn Lloegr.
Fe wnaeth ysgrifennydd addysg Llywodraeth y DU, Damian Hinds ddweud y dylai ffioedd dysgu adlewyrchu gwerth y radd "i'n cymdeithas yn ehangach".
Rhybuddiodd yr Athro Aitchison y gallai'r adolygiad gael "goblygiadau" i Gymru.
'Codi gêm'
Dywedodd fod pryder y gallai'r newid arwain at gyrsiau gwyddonol yn mynd yn ddrytach na rhai yn y celfyddydau, ac felly'n fwy tebygol o ddenu myfyrwyr o gefndiroedd cyfoethocach.
"Ydyn ni wir eisiau gwlad ble mae'n holl ddoctoriaid ni wedi cael addysg breifat ac wedyn wedi mynd i nifer cyfyngedig o brifysgolion">