Ateb y Galw: Gwyneth Glyn
- Cyhoeddwyd

Y gantores Gwyneth Glyn sy'n Ateb y Galw yr wythnos yma wedi iddi gael ei henwebu gan Heather Jones yr wythnos diwethaf.
Beth ydy dy atgof cyntaf?
Gorwedd ar garthen yn yr ardd, yn edrych i fyny ar ddail y goeden 'falau'n dawnsio uwch fy mhen, a gwrando ar gân y deryn du.
Pwy oeddet ti'n ffansio pan yn ieuengach?
Hogiau drwg Ysgol Nefyn.
Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?
Ro'n i'n westai ar soffa Nia Roberts ar raglen deledu fyw Eisteddfod yr Urdd, ac roedd un o bwysigion yr Ŵyl yn eistedd drws nesa' i mi. Ar fin mynd ar yr awyr oeddan ni pan sylwais fod rhywbeth hyll iawn (darn o fwyd, tybiais) wedi glynu i un o ddannedd blaen y dyn. Teimlais reidrwydd i roi gwybod iddo, rhag ofn iddo edrych yn hurt at y teledu.
"Mae ganddoch chi rwbath ar eich dant" dywedais yn garedig, gan bwyntio at ei geg.
"Mi wn i - mae o yno erioed" atebodd yntau, ddim cweit mor garedig. Fymryn yn lletchwith fu'r sgwrs ar y soffa wedi hynny!

"Cofio fi Gwyneth">